En

HNC Peirianneg Electronig a Thrydanol

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Sector

Sector
Peirianneg

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Dyddiau
Dyddiau
Hyblyg

Yn gryno

Mae Cyfrif Dysgu Personol yn fenter newydd gan y Lywodraeth Cymru. Bydd y fenter yn cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser am ddim sy'n cynnig dysgu hyblyg a chyfleus o amgylch eu ffordd o fyw bresennol.

Dyluniwyd Lefel 4 mewn Peirianneg HNC mewn ymgynghoriad â diwydiant; a'i fwriad oedd cysylltu â diwydiant lleol gymaint â phosibl, o ran ei gynnwys ac yn y dull mynychu.

Y nod yw cynhyrchu peiriannydd cymwys a gwybodus, sy'n gallu cwrdd â gofynion y diwydiant. Rhaglen alwedigaethol arbenigol yw hon gyda phwyslais cryf ar waith.

Mae ein cyrsiau Peirianneg HNC yn darparu sylfaen drylwyr yn y cysyniadau allweddol a'r sgiliau ymarferol sy'n ofynnol yn y sector. Yn cael ei gydnabod yn genedlaethol gan gyflogwyr, mae'r cwrs hefyd yn caniatau astudiaeth bellach ar lefel gradd uwch a thu hwnt.

Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... Undrywun sydd yn derbyn i'r categori uchod, 19 + oed, yn byw yng Nghymru, yn gyflogedig ac yn ennill llai na £30,596 y flwyddyn

… Cymryd y cam nesaf yn eich gyrfa yn y sector Peirianneg.

Cynnwys y cwrs

Mae'r cwrs yn darparu sylfaen drylwyr yn y cysyniadau allweddol a'r sgiliau ymarferol sy'n ofynnol yn y sector.

Byddwch yn astudio unedau gan gynnwys:

Blwyddyn 1

  • Gwyddoniaeth peirianneg
  • Egwyddorion trydanol
  • Mathemateg peirianneg
  • Dylunio peirianneg

Blwyddyn 2

  • Roboteg a CDP
  • Prosiect diwydiannol
  • Peiriannau trydanol
  • Systemau analog a digidol

Byddwch yn dysgu trwy gymysgedd o ddarlithoedd, sesiynau tiwtorial a sesiynau ymarferol.

Asesir dysgwyr trwy waith cwrs ac arholiad.

Gofynion Mynediad

Fel rheol byddai angen o leiaf un o'r canlynol arnoch chi:

  • Proffil Teilyngdod / Teilyngdod BTEC Lefel 3 perthnasol
  • CC ar Lefel A.
  • Graddau CC ar Lefel A ynghyd â C mewn Bagloriaeth Cymru

Hefyd: Pas TGAU mewn tri phwnc ar radd C neu'n uwch i gynnwys mathemateg ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth).

Bydd myfyrwyr aeddfed sydd â phrofiad perthnasol yn y diwydiant nad ydynt yn cwrdd â'r cymwysterau academaidd yn cael eu hystyried yn unigol trwy gyfweliad.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch symud ymlaen i Beirianneg HND neu Radd Sylfaen gysylltiedig.

Gellir dod o hyd i gyfleoedd cyflogaeth mewn ystod eang o sefydliadau, o gwmnïau rhyngwladol i gwmnïau lleol.

Mae yna lawer o opsiynau gyrfa cyffrous gan gynnwys:

  • peiriannydd Trydanol
  • peiriannydd rheolaeth ac offeryniaeth
  • peiriannydd electroneg
  • peiriannydd systemau gweithgynhyrchu

Byddwch yn mynychu'r coleg wyth awr yr wythnos, 30 wythnos y flwyddyn.

Ble alla i astudio HNC Peirianneg Electronig a Thrydanol?

MPLA0089AA
Campws Crosskeys

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.