BCS Rhithiol Ar-lein - Diploma Rhyngwladol mewn Dadansoddi Busnes

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Busnes, Cyllid a Rheoli
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Bydd Diploma Rhyngwladol BCS mewn Dadansoddi Busnes yn dilysu eich sgiliau a'ch gwybodaeth fel Dadansoddiad Busnes ac yn dangos bod gennych y galluoedd i weithredu yn y sector Dadansoddi Busnes.
Mae hwn yn ddiploma a gydnabyddir yn rhyngwladol ac yn dangos eich bod wedi dangos y ddealltwriaeth lawn a manwl o arfer gorau dadansoddi busnes.
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... unrhyw un dros 19 oed, yn byw yng Nghymru.
... unrhyw un mewn cyflogaeth ac yn ennill llai na £26,000 y flwyddyn.
... unrhyw un sydd am wella ei sgiliau a'i dechnegau allu gwella ansawdd a phrosesau sefydliad yn hyderus.
Cynnwys y cwrs
Mae Diploma Rhyngwladol BCS yn rhaglen 12 mis. Mae’n rhaid cwblhau’r holl ddysgu a’r arholiadau o fewn y cyfnod hwn.
Mae’r rhaglen wedi’i strwythuro’n 5 Cwrs Ystafell Ddosbarth Rithwir amlwg dros 11 o sesiynau diwrnod llawn ar adegau gwahanol yn ystod y flwyddyn.
Mae sylabws cwrs Diploma Rhyngwladol BCS mewn Dadansoddi Busnes yn cynnwys pedwar modiwl:
- Dau fodiwl craidd:
- Cynhelir Tystysgrif Ymarferydd BCS mewn Ymarfer Dadansoddi Busnes dros dri diwrnod llawn (dosbarthiadau ar y penwythnos) ac mae’n cyflwyno safbwynt cyfannol o sefydliad trwy ddefnyddio adnoddau a thechnegau dadansoddi strategol i ymchwilio i’r busnes a’i wella.
- Cynhelir Tystysgrif Ymarferydd BCS mewn Peirianneg Gofynion dros 3 diwrnod llawn (dosbarthiadau ar y penwythnos) ac mae’n eich galluogi chi i ddysgu sut i gymryd ymagwedd systematig ar ganfod, diffinio, dadansoddi, dilysu, dogfennu a rheoli gofynion.
- Modiwl arbenigol sy’n seiliedig ar wybodaeth:
- Cynhelir Tystysgrif Sylfaen BCS mewn Ymddygiad Sefydliadol dros ddau ddiwrnod llawn (dosbarthiadau dros y penwythnos) a bydd yn helpu i roi dealltwriaeth i chi o’r ffactorau cymhleth sy’n ffurfio’r ffordd y mae sefydliadau’n gweithredu, gan gynnwys egwyddorion modelau dylunio a gweithredu sefydliadol.
- Yn olaf, bydd angen y modiwl sy’n seiliedig ar Ymarferydd arnoch chi:
- Cynhelir Tystysgrif Ymarferydd BCS mewn Modelu Prosesau Busnes dros ddau ddiwrnod llawn (dosbarthiadau dros y penwythnos) ac mae wedi’i ddylunio i’ch helpu chi i ddeall ystod o fodelu prosesau busnes a thechnegau dadansoddi, gwybod sut maent yn cael eu defnyddio, ac adnabod pryd dylent gael eu defnyddio.
Ar ddiwedd y cwrs, cynhelir Gweithdy Paratoi ar gyfer yr Arholiad Llafar a gynhelir dros un diwrnod llawn (dros y penwthnos) a chewch gyfle i weithio gyda hyfforddwyr arbenigol i sicrhau eich bod chi wedi deall yr egwyddorion a addysgwyd drwy gydol rhaglen Diploma Rhyngwladol BCS mewn Dadansoddi Busnes.
Gofynion Mynediad
Nid oes yna unrhyw ofynion ffurfiol, ond byddwch angen diddordeb brwd yn y pwnc ac arbenigedd seiliedig ar wybodaeth yn ymwneud â’r canlynol:
- Tystysgrif Sylfaen BCS mewn Dadansoddi Busnes – Trosolwg o egwyddorion, technegau ac offer y Dadansoddwr Busnes
neu
- Tystysgrif Sylfaen BCS mewn Ymwybyddiaeth Fasnachol – Deall yr ymddygiad ariannol, diwylliannol a sefydliadol sy’n effeithio ar bob busnes
Gwybodaeth Ychwanegol
Cyflwynir y cwrs hwn mewn ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn cyfateb i gyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.
Mae'r cwrs yn cynnwys arholiadau sydd wedi'u bywiogi ar-lein ac mae angen i chi gael mynediad at ddyfais wedi'i galluogi ar y rhyngrwyd gyda meicroffon a gwe-gamera.
MPLA0076AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.