AIM Diploma mewn Ymarfer Cwnsela Lefel 4

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Lefel

Lefel
4

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Sector

Sector
Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Dyddiadau cychwyn ar gael o Awst 2023

Dyddiau
Dyddiau
Hyblyg

Yn gryno

Bydd y cwrs yn rhoi statws proffesiynol mewn cwnsela i chi, ac yn ychwanegu at eich sgiliau a gwybodaeth bresennol i ddatblygu dealltwriaeth fwy eang o'r maes, gyda phwyslais ar brofiad drwy leoliad gwaith.

Mae Cyfrif Dysgu Personol yn fenter newydd gan Lywodraeth Cymru sy'n rhoi cyfle i chi gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sy'n cynnig ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu o amgylch eich ffordd bresennol o fyw. Mae hyn yn cynnwys Diploma AIM mewn Ymarfer Cwnsela.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... unrhyw un sy’n 19+ oed, ac yn byw yng Nghymru, wedi’i gyflogi, ac yn ennill llai na £29,534 y flwyddyn

...unrhyw un sy'n ymwneud â chwnsela o fewn eu gwaith, megis nyrsio, addysgu, gwaith cymdeithasol, gwaith gwirfoddol, yr heddlu neu'r lluoedd arfog.

 

Cynnwys y cwrs

Bydd y cymhwyster uwch hwn yn eich galluogi i weithio o fewn fframwaith moesegol a datblygu dealltwriaeth o ofynion cyfreithiol a moesegol gwaith cwnsela. Bydd disgwyl i chi wneud defnydd pwrpasol o oruchwyliaeth cwnsela am 100 awr, a gwerthuso eich gwaith eich hun. Mae'n rhaid i chi fynd ar leoliad gwaith sy'n hanfodol ar gyfer eich datblygiad personol a phroffesiynol.

Wedi cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, gallwch ddilyn Diploma Lefel 5 mewn Cwnsela Seicotherapiwtig neu gymwysterau proffesiynol a fydd yn eich galluogi i weithio fel ymarferydd cwnsela.

Gofynion Mynediad

Mae gofyn eich bod wedi cwblhau'r Dystysgrif Lefel 3 mewn Cwnsela.

Gwybodaeth Ychwanegol

Fel rhan o'r cwrs, byddwch angen cwblhau lleiafswm o 50 awr o ymarfer cwnsela gyda goruchwyliaeth, a dylai gynnwys 8 awr gyda chleient unigol. Byddwch hefyd angen cwblhau gwiriad DBS - byddwn yn darparu mwy o wybodaeth i chi pan fyddwch yn ymgeisio.

Ble alla i astudio AIM Diploma mewn Ymarfer Cwnsela Lefel 4?

MPLA0075AA
Campws Dinas Casnewydd

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.