AWS Rhithwir Ar-lein - Pensaer Datrysiadau AWS Ardystiedig – Proffesiynol

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Cyfrifiadura a Thechnolegau Digidol
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Gyda chynnydd yn y galw am sgiliau cwmwl arbenigol, mae dod yn weithiwr proffesiynol ardystedig Cwmwl AWS yn ddewis gyrfa craff. Mae angen cynyddol am bobl sy’n gallu gweithredu a rheoli datrysiadau cwmwl, ac mae cyfleoedd rhagorol i ddatblygu'ch gyrfa yn y maes hwn. Nawr yw'r amser i hyfforddi ac ennill cymwysterau er mwyn ymuno â'r sector hwn fel gweithiwr proffesiynol.
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol (yn amodol ar gymhwysedd).
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... unrhyw un 19 oed a hyn, sy’n byw yng Nghymru, ac mewn cyflogaeth. Nid yw’r terfyn cyflog arferol o £29,534 yn berthnasol i’r cwrs hwn.
...cymryd y cam nesaf yn eich gyrfa yn y sector TG.
...unrhyw un sy'n gweithio, neu'n anelu at weithio o fewn TG gyda ffocws penodol ar gyfrifiadura cwmwl.
Cynnwys y cwrs
Mae Fframwaith Pensaernïaeth Dda AWS yn cynnwys:
- Rheoli sawl cyfrif AWS ar gyfer eich sefydliad
- Cysylltu canolfan ddata ar safle â'r Cwmwl AWS
- Trafod goblygiadau bilio cysylltu VPCs aml-ranbarth
- Symud data mawr o ganolfan ddata ar safle i AWS
- Dylunio storfeydd data mawr ar gyfer Cwmwl AWS
- Deall gwahanol ddyluniadau pensaernïol ar gyfer gwefan fawr
- Amddiffyn eich seilwaith rhag ymosodiadau gwrthod gwasanaeth wedi'i ddosbarthu (DDOS)
Gofynion Mynediad
Mae'r hyfforddiant AWS hwn wedi’i anelu at unigolion sy’n cyflawni rôl Pensaer Datrysiadau, sydd â dwy flynedd neu fwy o brofiad ymarferol o reoli a gweithredu systemau ar AWS. Os ydych yn awyddus i ddod yn Bensaer Datrysiadau AWS ond nad oes gennych y profiad sydd ei angen ar y lefel hon ar hyn o bryd, awgrymwn eich bod yn cofrestru ar y cwrs Cydymaith Ardystiedig Datrysiadau AWS fel man cychwyn cyn ymgymryd â’r ardystiad AWS hwn.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae dosbarthiadau rhithiol yn gyfwerth â chyrsiau dosbarth wyneb yn wyneb, ond fe'u darperir mewn amgylchedd ar-lein
Bydd angen i chi neilltuo pedwar diwrnod ar gyfer mynychu'r cwrs hwn a bydd yn cynnwys arholiadau sy’n cael eu goruchwylio ar-lein. Mae angen dyfais sydd wedi cysylltu â'r we a meicroffon a gwe-gamera arnoch.
MPLA0053AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.