Tystysgrif Addysg Uwch mewn Camddefnyddio Sylweddau

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Brynbuga
Sector
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dyddiad Cychwyn
Yn dechrau Awst 2023
Hyblyg
Yn gryno
Mae'r Dystysgrif Addysg Uwch mewn Camddefnyddio Sylweddau ar gyfer y rhai sydd eisoes yn gweithio o fewn Iechyd ac eisiau datblygu at swydd uwch neu arbenigo mewn camddefnyddio sylweddau; neu unrhyw un sydd eisiau newid gyrfa a dod i mewn i'r maes cyflogaeth hwn, sydd eisoes yn meddu ar gymhwyster lefel 3.
Mae Cyfrif Dysgu Personol yn fenter newydd gan Lywodraeth Cymru. Mae'n ffordd hyblyg a rhad ac am ddim o ddysgu. Bydd y fenter yn rhoi cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, am ddim sy'n cynnig dysgu hyblyg a chyfleus o amgylch eu ffordd o fyw presennol.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...unrhyw un sydd eisiau datblygu'r wybodaeth a'r profiad sy'n ofynnol i ymgymryd â swyddi camddefnyddio sylweddau mewn ystod o amgylcheddau Iechyd
...unrhyw un dros 19 oed sy'n byw yng Nghymru, mewn cyflogaeth ac yn ennill llai na £29,534 y flwyddyn.
Cynnwys y cwrs
Y modiwlau sydd wedi'u cynnwys yn y rhaglen yw:
- Ymarfer Myfyriol mewn Camddefnyddio Sylweddau
- Gweithio Rhwng Asiantaethau Camddefnyddio Sylweddau
- Deddfwriaeth a Pholisïau mewn Camddefnyddio Sylweddau
- Materion Cyfoes mewn Camddefnyddio Sylweddau
- Cyflwyniad i Ymarfer yn Seiliedig ar Dystiolaeth
- Dibyniaethau
Mae cynnwys y Dystysgrif mewn Camddefnyddio Sylweddau yn dilyn y nodau a osodwyd gan Gynllun gan Lywodraeth Cymru, sy'n tynnu sylw at yr angen am raglenni addysgiadol i godi ymwybyddiaeth am faterion cyffuriau ac alcohol sy'n effeithio ar berson, yn ogystal â'r ffactorau economaidd a chymdeithasol sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau.
Mae’r cwrs yn gofyn i ddysgwyr fynychu sesiynau mewnbwn ffurfiol ac mae angen darllen am y pwnc er mwyn cefnogi eich dysg yn ystod amser astudio personol. Drwy gydol y cwrs, bydd cyfle i ymgysylltu â dysg cyfoedion a chymryd rhan mewn fforymau a grwpiau trafod. Disgwylir ichi ymgysylltu â’r gweithgareddau hyn er mwyn cefnogi eich profiad dysgu.
Bydd myfyrwyr sy'n cwblhau 120 credyd y flwyddyn, llawn amser, yn cael yr opsiwn i ddilyn cwrs FD mewn Iechyd a Rheolaeth Gofal Cymdeithasol, Seicoleg FD a Chwnsela FD, sydd ar gael ym Mhrifysgol De Cymru. Mae'r ddarpariaeth hon yn rhoi cyfle i fyfyrwyr posib o lwybrau annhraddodiadol a chyrsiau paratoadol o lefel is ym maes iechyd a gofal cymdeithasol astudio o fewn Addysg Uwch ar lefel mynediad 4, gyda'r posibilrwydd i ddatblygu at gyrsiau lefel 5 a 6.
Gofynion Mynediad
Meini prawf isod: noder, os nad ydych yn bodloni’r meini prawf gradd a amlygir, byddwn yn ystyried oed a phrofiad.
Ymgeisydd hyn ydi unrhyw un dros 21 oed nad aeth i brifysgol o'r ysgol neu goleg. Byddwn yn croesawu ceisiadau gan ddysgwyr hyn. Mewn cyfweliad bydd angen ichi ddangos:
- Brwdfrydedd personol am y maes pwnc
- Profiad o’r maes astudiaeth
- Tystiolaeth o sgiliau, uchelgais ac ansawdd gwaith
I gofrestru ar y cwrs hwn, byddwch angen llwyddo mewn tri phwnc TGAU ar radd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth). Bydd rhaid i chi hefyd fod ag o leiaf un o'r canlynol:
- 48 o bwyntiau UCAS - cyfrifiannell tariff UCAS
- Mynediad i Addysg Uwch lle'r ydych wedi cael Diploma Llwyddo gyda 45 Llwyddo
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae'r cyfleoedd cyflogaeth yn cynnwys swyddi o fewn y diwydiant Iechyd a Gofal Cymdeithasol (cyhoeddus a phreifat), Elusennau sy'n gysylltiedig ag Iechyd a swyddi mewn awdurdodau lleol.
Telerau a amodau
Darganfyddwch fwy
MPLA0041AA
Campws Brynbuga
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.