Tystysgrif Addysg Uwch mewn Camddefnyddio Sylweddau

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Crosskeys
Sector
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dyddiad Cychwyn
Dyddiadau cychwyn ar gael o Awst 2023
Hyblyg
Yn gryno
Mae Cyfrif Dysgu Personol yn fenter newydd gan Lywodraeth Cymru. Mae'n ffordd hyblyg a rhad ac am ddim o ddysgu. Bydd y fenter yn rhoi cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, am ddim sy'n cynnig dysgu hyblyg a chyfleus o amgylch eu ffordd o fyw presennol.
Mae'r Dystysgrif Addysg Uwch mewn Camddefnyddio Sylweddau ar gyfer y rhai sydd eisoes yn gweithio o fewn Iechyd ac eisiau datblygu at swydd uwch neu arbenigo mewn camddefnyddio sylweddau; neu unrhyw un sydd eisiau newid gyrfa a dod i mewn i'r maes cyflogaeth hwn, sydd eisoes yn meddu ar gymhwyster lefel 3.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...unrhyw un dros 19 oed sy'n byw yng Nghymru, mewn cyflogaeth ac yn ennill llai na £26,000 y flwyddyn.
...cymryd y cam nesaf yn eich gyrfa yn y sector Iechyd
...unrhyw un sydd eisiau datblygu'r wybodaeth a'r profiad sy'n ofynnol i ymgymryd â swyddi camddefnyddio sylweddau mewn ystod o amgylcheddau Iechyd
Cynnwys y cwrs
Y modiwlau sydd wedi'u cynnwys yn y rhaglen yw:
- Ymarfer Myfyriol mewn Camddefnyddio Sylweddau
- Gweithio Rhwng Asiantaethau Camddefnyddio Sylweddau
- Deddfwriaeth a Pholisïau mewn Camddefnyddio Sylweddau
- Materion Cyfoes mewn Camddefnyddio Sylweddau
- Cyflwyniad i Ymarfer yn Seiliedig ar Dystiolaeth
- Dibyniaethau
Bydd myfyrwyr sy'n cwblhau 120 credyd y flwyddyn, llawn amser, yn cael yr opsiwn i ddilyn cwrs FD mewn Iechyd a Rheolaeth Gofal Cymdeithasol, Seicoleg FD a Chwnsela FD, sydd ar gael ym Mhrifysgol De Cymru. Mae'r ddarpariaeth hon yn rhoi cyfle i fyfyrwyr posib o lwybrau annhraddodiadol a chyrsiau paratoadol o lefel is ym maes iechyd a gofal cymdeithasol astudio o fewn Addysg Uwch ar lefel mynediad 4, gyda'r posibilrwydd i ddatblygu at gyrsiau lefel 5 a 6.
Mae cynnwys y Dystysgrif mewn Camddefnyddio Sylweddau yn dilyn y nodau a osodwyd gan Gynllun 2016-18 (Llywodraeth Cymru, 2016) gan Lywodraeth Cymru, sy'n tynnu sylw at yr angen am raglenni addysgiadol i godi ymwybyddiaeth am faterion cyffuriau ac alcohol sy'n effeithio ar berson, yn ogystal â'r ffactorau economaidd a chymdeithasol sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau.
Gofynion Mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, ond mae'r gallu i astudio ar L4 yn hanfodol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae'r cyfleoedd cyflogaeth yn cynnwys swyddi o fewn y diwydiant Iechyd a Gofal Cymdeithasol (cyhoeddus a phreifat), Elusennau sy'n gysylltiedig ag Iechyd a swyddi mewn awdurdodau lleol.
Telerau a amodau
Darganfyddwch fwy
MPLA0041AA
Campws Crosskeys
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.