City & Guilds Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAD) Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Lefel
3
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Sector
Peirianneg
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Hyblyg
Yn gryno
Er bod gwahanol fathau o feddalwedd drafftio a dylunio gyda chymorth cyfrifiadur (CAD) ar gael, un o’r rhai mwyaf poblogaidd yw AutoCAD. Ar y cwrs hwn, byddwch yn canolbwyntio ar ddefnyddio rhaglen AutoCAD i greu lluniadau 2D/3D.
Mae’r cwrs hwn ar gyfer dysgwyr sy’n dymuno datblygu eu profiad a’u sgiliau o ran defnyddio meddalwedd CAD. Byddwch yn dysgu’r agweddau uwch sy’n perthyn i AutoCAD, yn cynnwys defnyddio’r cymhwysiad a’r rôl sydd gan luniadu a chynllunio CAD yn y diwydiant.
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...unrhyw un sydd dros 19 oed, byw yng Nghymru, mewn cyflogaeth ac yn ennill llai na £30,596 y flwyddyn.
…cymryd y cam nesaf yn eich gyrfa yn y sector Peirianneg trwy ddysgu sut i ddefnyddio AutoCAD i greu, golygu a rheoli lluniadau
...unrhyw un sydd â diddordeb mewn cynhyrchu dyluniadau peirianneg a dylunio â chymorth cyfrifiadur
Cynnwys y cwrs
Mae’r cwrs CAD Lefel 3 yn ddelfrydol os oes gennych gefndir mewn cyfrifiadura a dylunio ac os ydych wedi gweithio yn y maes dylunio peirianneg a gweithgynhyrchu ers peth amser. Rydych eisiau meithrin sgiliau dylunio 2D/3D arbenigol er mwyn eich helpu i gamu ymlaen yn eich gyrfa.
Mae pedwar cymhwyster ar gael ar y Lefel hon:
- Dyfarniad Lefel 3 mewn Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur 2D
- Dyfarniad Lefel 3 mewn Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur 3D
- Dyfarniad Lefel 3 mewn Modelu Parametrig
- Tystysgrif Lefel 3 mewn Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur
Ar gyfer y Dystysgrif Lefel 3, bydd angen ichi gwblhau dwy uned o blith CAD 2D, CAD 3D a/neu Fodelu Parametrig.
Gofynion Mynediad
I gofrestru ar y cwrs hwn, byddwch angen un o’r cymwysterau canlynol:
- Dyfarniad Lefel 2 mewn Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur 2D
- Dyfarniad Lefel 2 mewn Modelu Parametrig
- Tystysgrif Lefel 2 mewn Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd modd trafod dyddiadau’r cwrs yn ystod y cais.
MPLA0033AA
Campws Dinas Casnewydd
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.