City & Guilds Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAD) Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Lefel
2
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Sector
Peirianneg
Dyddiad Cychwyn
Dyddiadau cychwyn ar gael o Awst 2023
Hyblyg
Yn gryno
Er bod gwahanol fathau o feddalwedd drafftio a dylunio gyda chymorth cyfrifiadur (CAD) ar gael, un o’r rhai mwyaf poblogaidd yw AutoCAD. Ar y cwrs hwn, byddwch yn canolbwyntio ar ddefnyddio rhaglen AutoCAD i greu lluniadau 2D/3D.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer dysgwyr sy'n dymuno gwella eu profiad a'u sgiliau wrth ddefnyddio meddalwedd CAD. Byddwch yn dysgu'r agweddau uwch ar AutoCAD gan gynnwys defnydd o'r rhaglen a'r rôl y mae llunio a dylunio CAD yn ei chwarae yn y diwydiant.
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...Rydych dros 19 mlwydd oed, mewn cyflogaeth ac yn ennill llai na £29,534 y flwyddyn
...…cymryd y cam nesaf yn eich gyrfa yn y sector Peirianneg trwy ddysgu sut i ddefnyddio AutoCAD i greu, golygu a rheoli lluniadau
... Rydych yn frwd dros ddelweddu dylunio mewnol, pensaernïaeth, llunio peirianneg
Cynnwys y cwrs
Mae’r cwrs CAD Lefel 2 hwn yn ddelfrydol os oes gennych beth profiad yn y maes cyfrifiadura, efallai mewn dylunio peirianneg neu weithgynhyrchu, ac os ydych eisiau gwella eich gwybodaeth a’ch sgiliau a chamu ymlaen yn eich gyrfa. Mae tri chymhwyster ar gael ar y Lefel hon:
- Dyfarniad Lefel 2 mewn Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur 2D
- Dyfarniad Lefel 2 mewn Modelu Parametrig
- Tystysgrif Lefel 2 mewn Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur
Ar gyfer y Dystysgrif Lefel 2 bydd angen ichi gwblhau dwy uned o blith CAD 2D a Modelu Parametrig.
Gofynion Mynediad
Bydd angen ichi fod wedi pasio Dyfarniad Lefel 1 City & Guilds mewn Modelu Parametrig neu feddu ar sgiliau a phrofiad perthnasol. Bydd sgiliau a phrofiad yn cael eu hasesu fesul achos.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd modd trafod dyddiadau’r cwrs yn ystod y cais.
MPLA0032AA
Campws Dinas Casnewydd
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.