BPEC ACS Pob Agwedd ar Gofrestru Diogelwch Nwy (Sylfaen)

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Sector
Iechyd a Diogelwch
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Hyblyg
Yn gryno
Pa un ai oes gennych eisoes gymhwyster plymwaith neu yn newydd i'r diwydiant nwy, mae'r cwrs hwn yn rhoi'r wybodaeth sylfaenol sydd ei hangen arnoch chi i ddod yn Osodwr Nwy. Wedi ichi ennill Tystysgrif Sylfaen Nwy BPEC, byddwch yn medru gwneud cais ar gyfer yr asesiad ACS perthnasol.
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... ymgeiswyr sy'n 19 oed neu hyn ac yn byw yng Nghymru, mewn gwaith, ac yn ennill llai na £29,534 y flwyddyn sy'n disgyn i'r categorïau uchod.
...ymgeiswyr Categori 2 a 3 ACS sydd eisiau dod yn Osodwr Nwy cofrestredig
...rhai sy'n camu i mewn i yrfa yn y diwydiant nwy
Cynnwys y cwrs
Mae'r cwrs BPEC Sylfaen Nwy yn berffaith os ydych eisiau ymuno â'r diwydiant nwy.
Mae'r cwrs hwn yn wedi ei gynllunio ar gyfer ymgeiswyr ACS Categori 2 a 3 (bydd gan hyfforddeion Categori 2 gymhwyster cydnabyddedig mewn peirianneg gwasanaethau mecanyddol, e.e. plymwaith, ond heb brofiad na hyfforddiant nwy; bydd hyfforddeion Categori 3 yn newydd i'r diwydiant nwy ac angen hyfforddiant mwy dwys).
Wedi ichi gwblhau eich hyfforddiant, portffolio ac argymhelliad llwyddiannus, byddwch yn ennill Tystysgrif Sylfaen Nwy BPEC, sy'n golygu y byddwch yn medru gwneud cais ar gyfer yr asesiad ACS perthnasol.
Gofynion Mynediad
Bydd angen i chi drefnu profiad gwaith ar safle gyda Gosodwr Nwy cofrestredig (i ennill a chofnodi profiad ffurfiol), a/neu eisiau newid gyrfa, neu ddatblygu yn eich gyrfa bresennol o fewn y sector adeiladu
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd dyddiadau a lleoliadau yn cael eu cadarnhau wedi ichi wneud cais.
MPLA0030AA
Campws Dinas Casnewydd
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.