HND Peirianneg Fecanyddol

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Crosskeys
Sector
Peirianneg
Dyddiad Cychwyn
Dyddiadau cychwyn ar gael o Awst 2023
Hyblyg
Yn gryno
Cafodd ein HNCs Peirianneg Lefel 5 eu dylunio mewn ymgynghoriad â'r diwydiant; â’r bwriad o gysylltu â'r diwydiant lleol cymaint â phosib, o ran cynnwys ac o ran modd mynychu.
Y nod yw creu peirianwyr gwybodus a chymwys tu hwnt a fydd yn bodloni gofynion diwydiant. Mae hon yn rhaglen alwedigaethol arbenigol sydd â phwyslais cryf ar waith.
Mae ein cyrsiau HNC Peirianneg yn cynnig sylfaen gadarn yn y prif gysyniadau a sgiliau ymarferol sydd eu hangen yn y sector. Mae'r cwrs, sy'n cael ei gydnabod yn genedlaethol gan gyflogwyr, hefyd yn caniatáu astudio pellach ar lefel gradd a thu hwnt.
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... unrhyw un sy’n 19+ oed, ac yn byw yng Nghymru, wedi’i gyflogi, ac yn ennill llai na £29,534 y flwyddyn
... cymryd y cam nesaf yn eich gyrfa yn y diwydiant Peirianneg.
Cynnwys y cwrs
Yn y cwrs HND Peirianneg Fecanyddol, byddwch yn astudio unedau yn cynnwys:
Blwyddyn 1
- Gwyddoniaeth Fecanyddol 2
- Prosesau Cynhyrchu
- Hanfodion Rheoli a Pheirianneg Busnes
Blwyddyn 2
- Dylunio Peirianneg Gynaliadwy
- Systemau Rheoli ac Offeryniaeth
- Prosiect
Mae'r astudio yn gyfuniad o theori (darlithoedd a thiwtorialau) ac ymarfer (gweithdai ymarferol), drwy fodiwlau craidd electroneg, egwyddorion trydanol, rheoli ac offeryniaeth, PLCs a mathemateg, a modiwlau dewisol gan gynnwys cyfathrebu data a rhwydweithiau, peirianneg pwer a rhaglennu C ar gyfer cymwysiadau caledwedd.
Bydd prosiect yn ail ran y cwrs yn datblygu eich sgiliau gweithio mewn grwp, a byddwch yn cynhyrchu arteffact sy'n gweithio i'w arddangos yn nigwyddiad arddangos peirianneg.
Darperir y cwrs drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a gweithdai ymarferol.
Bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu drwy aseiniadau, gwaith cwrs a phrofion yn y dosbarth, yn ogystal â pharatoi a rhoi cyflwyniadau i ddatblygu eich sgiliau cyfathrebu.
Gofynion Mynediad
Mae angen ymrwymiad llawn i bresenoldeb,ynghyd â'r gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan
o dîm. Dylai fod gennych awydd cryf i weithio yn y
diwydiant cerbydau modur, cadw at ethos y coleg
a bod yn barod i gymryd rhan mewn gwella lefel
eich pynciau academaidd. Bydd dysgwyr aeddfed yn cael eu hystyried yn
unigol, yn seiliedig ar sgiliau a phrofiad.
Gwybodaeth Ychwanegol
Wedi i chi gwblhau'r cwrs, gallwch wneud mwy o astudio rhan-amser, ychwanegol, a fydd yn newid eich cymhwyster i fod yn BSc (Anrhydedd) llawn.
Telerau a amodau
Darganfyddwch fwy
MPLA0029AA
Campws Crosskeys
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.