NOCN_Cskills Awards Diploma NVQ mewn Rheoli Safle Adeiladu (Adeiladu) - Adeilad Traddodiadol a Threftadaeth Lefel 6

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Lefel
6
Dysgu yn y Gwaith
Lleoliad
Oddi ar y safle
Sector
Sero Net a Chynaliadwyedd
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Mae'r NOCN_Cskills Awards Diploma NVQ Lefel 6 mewn Goruchwylio Safleoedd Adeiladu (Adeiladu) - cymhwyster/llwybr Adeiladu Traddodiadol a Threftadol wedi cael ei ddatblygu ar gyfer cyflawniad mewn amgylchedd gweithle go iawn. Mae'r cymhwyster hwn yn galluogi'r dysgwr i gael gwell adnabyddiaeth o'u sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth yn ogystal ag arddangos eu gallu yn y gweithle wrth wneud rôl rheolwr safle.
Bydd diwydiant yn derbyn y cymhwyster/llwybr ar ei ben ei hun ar gyfer cael mynediad i swydd.
Mae Cyfrif Dysgu Personol yn fenter newydd gan Lywodraeth Cymru. Mae'n ffordd hyblyg a rhad ac am ddim o ddysgu. Bydd y fenter yn rhoi cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan amser, rhad ac am ddim sy'n cynnig ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu i gyd-fynd â'u ffordd bresennol o fyw.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... unrhyw un 19 oed a hyn, sy’n byw yng Nghymru, ac mewn cyflogaeth
... unigolion sydd ynghlwm â’r sector adeiladu domestig, yn enwedig y rhai hynny sydd eisoes ynghlwm â phrosiectau datgarboneiddio/effeithlonrwydd ynni, neu sy’n awyddus i fod ynghlwm â phrosiectau o'r fath
... unigolion sy’n gweithio yn y diwydiant adeiladu, ac sy’n arbenigo mewn ôl-osod
Cynnwys y cwrs
Mae'r NOCN_Cskills Awards Diploma NVQ Lefel 6 mewn Goruchwylio Safleoedd Adeiladu (Adeiladu) - cymhwyster/llwybr Adeiladu Traddodiadol a Threftadol hwn yn cynorthwyo'r dysgwr i gyflawni sgiliau ymarferol trosglwyddadwy, sylfaenol sy'n eu grymuso, ac sydd â gwybodaeth gysylltiedig sy'n sail i hynny.
Bydd y dysgwr yn dysgu sgiliau ymarferol gwybodaeth allweddol drwy unedau dewisol a gorfodol.
Er mwyn pasio/cyflawni'r cymhwyster/llwybr hwn dylai dysgwyr gwblhau/gyflawni'r deunaw (18) o unedau Gorfodol a dwy (2) uned Ddewisol yn llwyddiannus.
Byddwch yn cael eich ymrestru ar system ar-lein, lle gallwch gadw llygad ar eich cynnydd, cyfathrebu â'ch tiwtor/asesydd yn uniongyrchol am unrhyw beth nad ydych yn siwr amdano a chael arweiniad drwy gydol y broses gyfan.
Ni cheir gwersi mewn dosbarthiadau, dim ond ymweliad(au) ymarferol ar y safle gan eich tiwtor/asesydd. Mae’r holl ymweliadau ar y safle wedi’u llunio i gael yr ymyrraeth leiaf bosibl ar eich diwrnod gwaith.
Gofynion Mynediad
Cewch eich asesu yn seiliedig ar eich gwybodaeth gyfredol, a gellir gofyn unrhyw gwestiynau a chynnal trafodaeth broffesiynol yn ystod eich amser eich hun. Er mwyn cwblhau unrhyw NVQ, bydd angen i chi feddu ar wybodaeth flaenorol a phrofiad o’r grefft/llwybr rydych yn ei ddewis.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr feddu ar lefel sylfaenol o lythrennedd, yn gyflogedig a bod mewn sefyllfa lle gellir arsylwi gwaith sy’n mynd rhagddo. Mae’n bosibl y bydd angen sgiliau TG sylfaenol arnoch chi, ond nid yw hynny'n hanfodol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gall hyfforddiant a/neu brofiad pellach roi mynediad i swyddi rheoli a goruchwyliol o fewn y gweithle.
MPLA0023AA
Oddi ar y safle
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.