ABBE Diploma mewn Cydlynu Ôl-osod a Rheoli Risg Lefel 5
NODYN: DIM OND AR GYFER GWEITHWYR TATA STEEL A'U CADWYN GYFLENWI GYMREIG Y MAE'R CWRS HWN AR GAEL.
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Lefel
5
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Oddi ar y safle
Sector
Sero Net a Chynaliadwyedd
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Hyblyg
Yn gryno
Mae Cyfrif Dysgu Personol yn fenter newydd gan Lywodraeth Cymru. Mae'n ffordd hyblyg a rhad ac am ddim o ddysgu. Bydd y fenter yn rhoi cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan amser, rhad ac am ddim sy'n cynnig ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu i gyd-fynd â'u ffordd bresennol o fyw.
Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio ar gyfer unigolion sydd eisoes wedi cymhwyso mewn rheoli prosiect safle/adeilad i ennill cymhwyster mewn cydgysylltu prosiectau a rheoli risg prosiectau ol-osod domestig, yn ogystal â darparu llwybr i’r rhai sydd eisoes yn gweithio ym maes ôl-osod ond heb gymwysterau priodol.
Bydd y cymhwyster yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau penodol i ddysgwyr allu cyflwyno prosiectau ôl-osod domestig i’r safonau a nodir yn PAS2035. Mae rôl y Cydlynydd Ôl-osod yn orfodol ar gyfer pob prosiect a wneir ar y cyd a PAS2035 a gefnogir yn llawn gan Lywodraeth Cymru a TrustMark.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
Unigolion sydd ar hyn o bryd o dan gyflogaeth Tata Steel UK (safleoedd yng Nghymru) NEU eu cadwyn gyflenwi Gymreig ehangach (gan gynnwys mewn perygl o ddiswyddiad), 19+ mlwydd oed, yn byw yng Nghymru.
Cynnwys y cwrs
Mae’r cymhwyster Lefel 5 hwn wedi’i ddylunio i ymdrin â chydgysylltu prosiect o un pen i’r llall, o ddechrau prosiect ôl-osod hyd at drosglwyddo a gwerthuso parhaus, gan gynnwys:
- Asesu Anheddau ar gyfer Ôl-osod
- Ffiseg Adeiladu - Rheoli Risg
- Gwerthusiad Opsiwn Gwella a Chynlluniau Ôl-osod Tymor Canolig
- Gwella Aerglosrwydd ac Awyru
- Gwella Ffabrig yr Adeilad - Waliau a Ffenestri
- Gwella'r Gwasanaethau Adeiladu - Gwresogi, Dwr Poeth, Goleuadau a Phwer
- Gwella’r Gwasanaethau Adeiladu - Systemau Ynni Adnewyddadwy
- Cyflwyniad i Ôl-osod Dan PAS2035
- Profi, Monitro a Gwerthuso Ôl-osod
- Sicrhau Ansawdd a Rheoli Risg Ôl-osod
- Deall y Gofynion ar gyfer Cyflwyno Mesurau i TrustMark
Asesir y cymhwyster drwy gyfuniad o brawf gwybodaeth gorfodol diwedd cymhwyster, trafodaeth(au) proffesiynol ac astudiaeth achos senario wedi’i gosod yn allanol ac wedi’i marcio’n fewnol.
Gofynion Mynediad
Cewch eich asesu yn seiliedig ar eich gwybodaeth gyfredol, a gellir gofyn unrhyw gwestiynau a chynnal trafodaeth broffesiynol yn ystod eich amser eich hun. Er mwyn ymgymryd â'r NVQ hwn bydd angen i chi feddu ar wybodaeth a phrofiad blaenorol yn y diwydiant adeiladu a’r amgylchedd adeiledig.
Mae’n rhaid i ddysgwyr feddu ar gymhwyster Lefel 4 mewn pwnc sy’n ymwneud ag adeiladu fel pensaernïaeth, tirfesur, peirianneg neu reoli safle adeiladu, neu Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (CGC) ar Lefel 3 neu uwch a bod ag o leiaf 5 mlynedd o brofiad mewn pwnc sy’n ymwneud â rheoli neu oruchwylio prosiectau adeiladu ac adeiladu domestig.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr feddu ar lefel sylfaenol o lythrennedd, yn gyflogedig a bod mewn sefyllfa lle gellir arsylwi gwaith sy’n mynd rhagddo. Mae’n bosibl y bydd angen sgiliau TG sylfaenol arnoch chi, ond nid yw hynny'n hanfodol
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae cyflawni’r cymhwyster hwn yn cadarnhau bod y dysgwr wedi ennill y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i symud ymlaen yn uniongyrchol i gyflogaeth fel Cydlynydd Ôl-osod ar gyfer prosiectau ôl-osod domestig a ddarperir o dan PAS 2035.
MPLA0019AA
Oddi ar y safle
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.