Uned mewn Cyflwyniad i Ôl-osod o dan PAS2035 Lefel 5

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Lefel
5
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Oddi ar y safle
Sector
Sero Net a Chynaliadwyedd
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Hyblyg
Yn gryno
Nod yr uned hon yw darparu dysgwyr gyda'r wybodaeth i ddeall cyd-destun a chefndir ôl-osod domestig dan PAS2035. Bydd dysgwyr yn ennill dealltwriaeth o fanteision ôl-osod ty cyfan a manylu, gam werthuso opsiynau ôl-osod, patrymau defnydd o ynni domestig ac egwyddorion allweddol ôl-osod domestig carbon isel.
Mae Cyfrif Dysgu Personol yn fenter newydd gan Lywodraeth Cymru. Mae'n ffordd hyblyg a rhad ac am ddim o ddysgu. Bydd y fenter yn rhoi cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan amser, rhad ac am ddim sy'n cynnig ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu i gyd-fynd â'u ffordd bresennol o fyw.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... unrhyw un 19 oed a hyn, sy’n byw yng Nghymru, ac mewn cyflogaeth
... unigolion sydd ynghlwm â’r sector adeiladu domestig, yn enwedig y rhai hynny sydd eisoes ynghlwm â phrosiectau datgarboneiddio/effeithlonrwydd ynni, neu sy’n awyddus i fod ynghlwm â phrosiectau o'r fath
... unigolion sy’n gweithio yn y diwydiant adeiladu, ac sy’n arbenigo mewn ôl-osod
Cynnwys y cwrs
Y prif destunau yr ymdrinir â hwy yn yr Uned yw:
- Deall cyd-destun gwleidyddol a thechnegol ôl-osod dan PAS2035
- Gallu dadansoddi ac egluro patrwm defnydd o ynni domestig, a sut mae'n amrywio rhwng anheddau
- Gallu egluro manteision ôl-osod domestig ty cyfan
- Deall safonau a phrosesau ôl-osod dan PAS2035
- Gallu egluro gwerthusiad o opsiynau ôl-osod
- Deall prif egwyddorion ôl-osod domestig carbon isel
Bydd yr Uned hon yn cael ei hasesu drwy gwblhau prawf gwybodaeth gorfodol ar ddiwedd cymhwyster a thrafodaeth broffesiynol.
Gofynion Mynediad
Cewch eich asesu yn seiliedig ar eich gwybodaeth gyfredol, a gellir gofyn unrhyw gwestiynau a chynnal trafodaeth broffesiynol yn ystod eich amser eich hun.
Er mwyn cwblhau unrhyw NVQ, bydd angen i chi feddu ar wybodaeth flaenorol a phrofiad o’r grefft/llwybr rydych yn ei ddewis.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr feddu ar lefel sylfaenol o lythrennedd, yn gyflogedig a bod mewn sefyllfa lle gellir arsylwi gwaith sy’n mynd rhagddo. Mae’n bosibl y bydd angen sgiliau TG sylfaenol arnoch chi, ond nid yw hynny'n hanfodol.
MPLA0018AA
Oddi ar y safle
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.