En

CITB Cynllun Hyfforddiant Diogelwch Rheoli Safle (SMSTS)

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Sector

Sector
Adeiladu

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Dyddiau
Dyddiau
Hyblyg

Yn gryno

Bydd y cwrs hwn yn arddangos sut i fodloni'r galw cynyddol am dystiolaeth o reolaeth iechyd a diogelwch cadarn ar safle adeiladu.

Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...unrhyw un sydd dros 19 mlwydd oed, mewn cyflogaeth ac yn ennill llai na £30,596 y flwyddyn

...unrhyw un sy'n ystyried cymryd y cam nesaf tuag at yrfa yn y diwydiant adeiladu drwy ymgymryd â rhaglen astudio hyblyg wedi'i chynllunio ar eich cyfer chi

...unrhyw un sydd yn frwd dros ddod yn rheolwr safle

Cynnwys y cwrs

Bydd y cwrs yn mynd i'r afael â:

  • chyfathrebu gyda chleientiaid ac adrodd ar gynnydd
  • goruchwylio gweithwyr adeiladu dan gontract
  • cwrdd ag isgontractwyr
  • cynnal arolygon diogelwch a sicrhau diogelwch safle ac adeiladu
  • gwirio a pharatoi adroddiadau, dyluniadau a lluniadau safle
  • cynnal gwiriadau rheoli ansawdd
  • ysgogi'r gweithlu drwy gydol y prosiect
  • datrys problemau o ddydd i ddydd
  • defnyddio cymwysiadau cyfrifiadurol rheoli adeiladu arbenigol

Gofynion Mynediad

Os nad oes gennych gerdyn CSCS cyn dechrau'r cwrs, bydd y coleg yn talu am yr hyfforddiant ar gyfer hyn fel rhan o'r cwrs.

Ble alla i astudio CITB Cynllun Hyfforddiant Diogelwch Rheoli Safle (SMSTS)?

MPLA0016AA
Campws Dinas Casnewydd

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.