HNC Peirianneg Fecanyddol

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Crosskeys
Sector
Peirianneg
Dyddiad Cychwyn
Yn dechrau Awst 2023
Hyblyg
Yn gryno
Cafodd yr HNC Peirianneg Fecanyddol Lefel 4 ei gynllunio mewn ymgynghoriad â'r diwydiant gyda’r bwriad o gysylltu â'r diwydiant lleol cymaint â phosibl, yn ei gyd-destun yn ogystal ag yn y dull mynychu.
Y nod yw creu peiriannydd gwybodus a chymwys tu hwnt a fydd yn bodloni gofynion y byd gwaith. Mae hon yn rhaglen alwedigaethol arbenigol sydd â phwyslais cryf ar waith.
Mae'r cwrs yn cynnig sylfaen gadarn yn y prif gysyniadau a sgiliau ymarferol sydd eu hangen yn y sector, ac mae'n cael ei gydnabod yn genedlaethol gan gyflogwyr, yn ogystal â chaniatáu astudiaeth bellach ar lefel gradd a thu hwnt.
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol (yn amodol ar gymhwysedd).
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...unrhyw un dros 19 oed, sy'n byw yng Nghymru, ac mewn cyflogaeth. Nid yw'r terfyn cyflog o £29,534 yn berthnasol i'r cwrs hwn.
... cymryd y cam nesaf yn eich gyrfa yn y diwydiant Peirianneg.
Cynnwys y cwrs
Mae'r cwrs yn cynnig sylfaen gadarn yn y prif gysyniadau a sgiliau ymarferol sydd eu hangen yn y sector.
Byddwch yn astudio unedau, gan gynnwys:
Blwyddyn 1
- Gwyddoniaeth fecanyddol 1
- Dylunio a gweithgynhyrchu
- Mathemateg peirianneg
Blwyddyn 2
- Ymarfer proffesiynol ar gyfer peirianwyr
- Deunyddiau
- Thermohylifau
Byddwch yn dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a gweithdai ymarferol.
Asesir y cwrs drwy waith cwrs ac arholiad.
Gofynion Mynediad
Fel rheol byddai angen o leiaf un o'r canlynol arnoch chi:
- Proffil Teilyngdod / Teilyngdod BTEC Lefel 3 perthnasol
- CC ar Lefel A.
- Graddau CC ar Lefel A ynghyd â C mewn Bagloriaeth Cymru
Hefyd: Pas TGAU mewn tri phwnc ar radd C neu'n uwch i gynnwys mathemateg ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth).
Bydd myfyrwyr aeddfed sydd â phrofiad perthnasol yn y diwydiant nad ydynt yn cwrdd â'r cymwysterau academaidd yn cael eu hystyried yn unigol trwy gyfweliad.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch fynd ymlaen i HND Peirianneg neu Radd Sylfaen berthnasol.
Mae cyfleoedd cyflogaeth mewn llu o sefydliadau, o fusnesau rhyngwladol i gwmnïau lleol. Mae nifer o opsiynau gyrfa cyffrous, gan gynnwys:
- Peiriannydd Darlledu
- Peiriannydd Trydanol
- Peiriannydd Rheoli ac Offeryniaeth
- Peiriannydd Electroneg
- Peiriannydd Systemau Gweithgynhyrchu
Byddwch yn mynd i'r coleg am wyth awr yr wythnos, 30 wythnos y flwyddyn.
Telerau a amodau
Darganfyddwch fwy
MPLA0014AA
Campws Crosskeys
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.