GQA Diploma NVQ mewn Goruchwylio Safle Adeiladu V2 - Ôl-osod Lefel 4

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Lefel

Lefel
4

Dull Astudio
Dull Astudio
Dysgu yn y Gwaith
Lleoliad

Lleoliad
Oddi ar y safle

Sector

Sector
Sero Net a Chynaliadwyedd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

 

Mae'r cymhwyster hwn wedi'i anelu at unigolion sydd â chyfrifoldeb dros drefnu a goruchwylio gwaith ar safleoedd Adeiladu, gan gynnwys cynllunio a rheoli dulliau gwaith, dyrannu offer, personél a deunyddiau, a sicrhau bod gwaith yn cael ei gyflawni at y safon ofynnol a sicrhau bod cyfathrebiadau'n glir ac yn effeithiol.

Mae'r cymhwyster ar Lefel 4, er gall rhai unedau fod ar wahanol lefelau. Mae cymwysterau Lefel 4 wedi'u hanelu'n bennaf at unigolion sydd wedi'u hyfforddi'n llawn ac sydd â phrofiad o ystod eang o rolau, ac mae gofyn i'r unigolyn fod yn rhan weithredol o'r broses gwneud penderfyniadau a bod â dealltwriaeth dda o broblemau a all godi ar safleoedd Adeiladu, a bod â'r gallu i ddelio â nhw.

Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

…unrhyw un 19+ oed sy’n byw yng Nghymru ac sydd mewn gwaith. Nid yw’r terfyn cyflog arferol o £29,534 yn berthnasol i’r cwrs hwn.

... unigolion sydd ynghlwm â’r sector adeiladu domestig, yn enwedig y rhai hynny sydd eisoes ynghlwm â phrosiectau datgarboneiddio/effeithlonrwydd ynni, neu sy’n awyddus i fod ynghlwm â phrosiectau o'r fath

... unigolion sy’n gweithio yn y diwydiant adeiladu, ac sy’n arbenigo mewn ôl-osod

Cynnwys y cwrs

Oherwydd yr ystod eang o dasgau sy'n cael eu cynnal ar safleoedd Adeiladu, nid oes disgwyl i'r holl unigolion hynny sydd â chyfrifoldebau rheoli wneud yr un gweithgareddau; mae'r cymhwyster wedi'i strwythuro i sicrhau bod yr unedau sydd ar gael yn cynnig lefel uchel o hyblygrwydd, a bwriad yr unedau hynny yw mynd i'r afael â'r holl wahanol grefftau sydd ynghlwm ag effeithlonrwydd ynni domestig.

Byddwn yn gweithio gyda chi i ganfod y 'llwybr' mwyaf priodol i chi.

Byddwch yn cael eich ymrestru ar system ar-lein, lle gallwch gadw llygad ar eich cynnydd, cyfathrebu â'ch tiwtor/asesydd yn uniongyrchol am unrhyw beth nad ydych yn siwr amdano a chael arweiniad drwy gydol y broses gyfan.

Ni cheir gwersi mewn dosbarthiadau, dim ond ymweliad(au) ymarferol ar y safle gan eich tiwtor/asesydd. Mae’r holl ymweliadau ar y safle wedi’u llunio i gael yr ymyrraeth leiaf bosibl ar eich diwrnod gwaith.

Gofynion Mynediad

Cewch eich asesu yn seiliedig ar eich gwybodaeth gyfredol, a gellir gofyn unrhyw gwestiynau a chynnal trafodaeth broffesiynol yn ystod eich amser eich hun. Er mwyn cwblhau unrhyw NVQ, bydd angen i chi feddu ar wybodaeth flaenorol a phrofiad o’r grefft/llwybr rydych yn ei ddewis.

Bydd hefyd gofyn i ymgeiswyr brofi eu bod â gwybodaeth am ddeddfwriaeth, arwain timau a chynnal a gwella safonau gwaith.

Rhaid ichi feddu ar lefel sylfaenol o lythrennedd, bod yn gyflogedig a bod â mynediad at safle gwaith y gellir ei arsylwi. Mae’n bosibl y bydd angen sgiliau TG sylfaenol arnoch chi, ond nid yw hynny'n hanfodol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae'r cymhwyster wedi'i ddatblygu mewn ffordd sy'n caniatáu cyfle cyfartal i weithwyr o gwmnïau o bob maint ac arbenigedd ei gwblhau.

Ble alla i astudio GQA Diploma NVQ mewn Goruchwylio Safle Adeiladu V2 - Ôl-osod Lefel 4?

MPLA0010AA
Oddi ar y safle

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.