HNC Peirianneg (Gweithgynhyrchu Uwch)

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Sector
Peirianneg
Dyddiad Cychwyn
Yn dechrau Awst 2023
Hyblyg
Yn gryno
Dyma raglen alwedigaethol arbenigol sydd â phwyslais cryf ar y cysylltiad â byd gwaith. Mae'r cwrs yn cynnig sylfaen gadarn yn y prif gysyniadau a sgiliau ymarferol sydd eu hangen yn y sector, ac mae'n cael ei gydnabod yn genedlaethol gan gyflogwyr.
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... unrhyw un sy’n 19+ oed, ac yn byw yng Nghymru, wedi’i gyflogi, ac yn ennill llai na £29,534 y flwyddyn
... unigolion sydd eisiau dilyn gyrfa mewn peirianneg ac sy'n ffafrio cyrsiau galwedigaethol, ymarferol
... unigolion rhifog, creadigol a hunan-gymhellol
Cynnwys y cwrs
Mae'r cwrs yn cynnig sylfaen gadarn yn y prif gysyniadau a sgiliau ymarferol sydd eu hangen yn y sector.
Byddwch yn astudio unedau, gan gynnwys:
- Dylunio Peirianneg
- Mathemateg Peirianneg
- Gwyddoniaeth Peirianneg
- Rheoli Prosiect Peirianneg Proffesiynol
- Robotiaid Diwydiannol
- Egwyddorion Digidol
- Diwydiant 4.0
- Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur ar gyfer Peirianneg
Byddwch yn dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a sesiynau ymarferol, ac yn cael eich asesu drwy waith cwrs ac arholiadau.
Gofynion Mynediad
Fel arfer, bydd arnoch angen o leiaf un o'r canlynol:
- Proffil BTEC Lefel 3 perthnasol gyda Theilyngdod/Teilyngdod
- DD ar lefel Safon Uwch
- Graddau DE ar lefel Safon Uwch, a gradd C ym Magloriaeth Cymru
- Mynediad at Addysg Uwch lle'r ydych wedi cwblhau Diploma Llwyddo gyda 45 marc Llwyddo
Yn ogystal â: Llwyddo mewn tri phwnc TGAU ar radd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth).
Bydd myfyrwyr hyn nad ydynt yn bodloni'r cymwysterau academaidd, ond sydd â phrofiad perthnasol yn y diwydiant, yn cael eu hystyried yn unigol drwy gyfweliad.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallech fynd yn eich blaen i weithio yn un o'r meysydd awyrenegol, modurol neu gyfansoddion, a meysydd peirianneg cysylltiedig. Gallech hefyd fynd ymlaen i astudio ymhellach, drwy astudio’r HND neu un o'r graddau peirianneg.
Telerau a amodau
Darganfyddwch fwy
MPLA0005AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.