NOCN_Cskills Awards Dyfarniad mewn Deall Ôl-osod Domestig Lefel 2

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Oddi ar y safle

Sector

Sector
Sero Net a Chynaliadwyedd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Dyddiau
Dyddiau
Hyblyg

Yn gryno

Mae Cyfrif Dysgu Personol yn fenter newydd gan Lywodraeth Cymru. Mae'n ffordd hyblyg a rhad ac am ddim o ddysgu. Bydd y fenter yn rhoi cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan amser, rhad ac am ddim sy'n cynnig ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu i gyd-fynd â'u ffordd bresennol o fyw.

Mae’r cymhwyster hwn yn seiliedig ar alwedigaeth a’i nod yw cyflwyno dysgwyr i sector ôl-osod y diwydiant adeiladu. Bydd cwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus yn rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth i ddysgwyr o egwyddorion ôl-osod.

Mae’r cymhwyster yn canolbwyntio ar yr agwedd inswleiddio adeiladau o ôl-osod ac mae wedi’i gynllunio i gefnogi dysgwyr i symud ymlaen i’r Diploma NVQ mewn Insiwleiddio a Thriniaethau Adeiladu (Adeiladu) Lefel 2. Mae'r cymhwyster wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â’r Retrofit Academy, y prif ddarparwr addysg a hyfforddiant yn y sector ôl-osod.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... unrhyw un 19 oed a hyn, sy’n byw yng Nghymru, ac mewn cyflogaeth, sy’n awyddus i gymryd y cam nesaf tuag at yrfa wych

... unigolion sydd ynghlwm â’r sector adeiladu domestig, yn enwedig y rhai hynny sydd eisoes ynghlwm â phrosiectau datgarboneiddio/effeithlonrwydd ynni, neu sy’n awyddus i fod ynghlwm â phrosiectau o'r fath

... unigolion sy’n gweithio yn y diwydiant adeiladu, ac sy’n arbenigo mewn ôl-osod

Cynnwys y cwrs

Mae’r Ystod Hyfforddiant yn nodi meysydd y mae’n rhaid ymdrin â hwy wrth gyflwyno’r uned hon. Dyma’r lleiafswm a ddisgwylir ond disgwylir i diwtoriaid gynnwys meysydd eraill y bydd gwybodaeth amdanynt o fudd i’w dysgwyr, yn seiliedig ar leoliad, y mathau o waith sydd ar gael ac o brofiad proffesiynol y tiwtor ei hun.

  • Gwybodaeth Ôl-osod Domestig
  • Iechyd a diogelwch
  • Deunydd ôl-osod
  • Amddiffyn yr ardal waith
  • Gwybodaeth benodol i gontract
  • Prosesau insiwleiddio

Ystod yr asesiad:

Uned wybodaeth yn unig yw hon a chaiff ei hasesu drwy asesiad terfynol yn cynnwys 35 cwestiwn amlddewis. Mae manyleb asesu wedi’i datblygu sy’n amlinellu nifer y cwestiynau asesu ar gyfer pob maen prawf asesu.

  • Yr amser a ganiateir ar gyfer y 35 cwestiwn yw 50 munud
  • Y marc pasio yw 25 allan o 35

Bydd darpariaeth yn gymysgedd o ymgysylltu o bell ac yn yr ystafell ddosbarth.

Gofynion Mynediad

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer dysgwyr sy’n dilyn y cymhwyster hwn, ond byddai profiad yn y diwydiant adeiladu yn fantais.

Mae’n rhaid i ymgeiswyr feddu ar lefel sylfaenol o lythrennedd, yn gyflogedig a bod mewn sefyllfa lle gellir arsylwi gwaith sy’n mynd rhagddo. Mae’n bosibl y bydd angen sgiliau TG sylfaenol arnoch chi, ond nid yw hynny'n hanfodol.

Ble alla i astudio NOCN_Cskills Awards Dyfarniad mewn Deall Ôl-osod Domestig Lefel 2?

MPLA0003AA
Oddi ar y safle

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.