HND Rheoli Busnes

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifeg, Busnes a’r Gyfraith
Llawn Amser
Lleoliad
Parth Dysgu Torfaen
Dyddiad Cychwyn
12 Medi 2023
Gofynion Mynediad
Fel arfer, byddwch angen o leiaf un o'r canlynol i gofrestru ar gyfer y cwrs hwn:
Proffil BTEC Lefel 3 perthnasol gyda Theilyngdod/Teilyngdod
DD ar lefel Safon Uwch
Graddau DE ar lefel Safon Uwch, a gradd C ym Magloriaeth Cymru
Mynediad i Addysg Uwch lle'r ydych wedi cael Diploma Llwyddo gyda 45 Llwyddo
48 o bwyntiau UCAS
Yn ogystal â:
Llwyddo mewn tri phwnc TGAU ar radd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth).
Yn gryno
Byddwch yn dod i ddeall natur sefydliadau, eu rheolaeth a'r amgylcheddau allanol cyfnewidiol y maent yn gweithredu ynddynt.
Dyma'r cwrs i chi os...
... ... Ydych eisiau gwella eich cymwysterau astudiaethau busnes
... ... rydych yn anelu at gwblhau gradd rheoli busnes
... Rydych eisiau dealltwriaeth ymarferol a damcaniaethol o fusnes
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mewn amgylchedd busnes sy'n newid yn gyflym, mae cyflogwyr yn chwilio am bobl sy’n barod i weithredu ac yn gallu dod o hyd i ddatrysiadau i gasgliad o broblemau yn rhwydd. Mae'r cwrs hwn a arweinir gan y diwydiant yn rhoi'r arfau i chi allu cyflawni hyn, a byddwch yn cael profiad o natur yr amgylchedd gwaith modern. Byddwch yn dysgu pethau newydd yn gyson, gan astudio pynciau fel cyfrifeg, adnoddau dynol, rheoli gwybodaeth, marchnata ac ymddygiad sefydliadol. Ac os ydych am fynd â'ch astudiaethau ymhellach, mae'r cwrs yn gam perffaith tuag at radd anrhydedd mewn busnes.
Modiwlau ym Mlwyddyn 1 Lefel 4:
- Rheoli Gwybodaeth Ariannol
- Dod yn Weithiwr Proffesiynol, Ymholiad Critigol
- Entrepreneuriaeth a chychwyn Busnes
- Economeg, y Gyfraith ac Amgylchedd Busnes
- Pobl, Gwaith a Chymdeithas
- Marchnata ac Ymddygiad Cwsmeriaid
Gall modiwlau newid
Modiwlau ym mlwyddyn 2 Lefel 5
- Dadansoddi Busnes Strategol
- Ymchwil Byw
- Y Gweithle Digidol
- Rheoli Pobl mewn Gweithlu Byd-Eang
- Cyfathrebiadau Marchnata Creadigol
- Rheoli Menter
Gall modiwlau newid
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Fel arfer, byddwch angen o leiaf un o'r canlynol i gofrestru ar gyfer y cwrs hwn:
Proffil BTEC Lefel 3 perthnasol gyda Theilyngdod/Teilyngdod
DD ar lefel Safon Uwch
Graddau DE ar lefel Safon Uwch, a gradd C ym Magloriaeth Cymru
Mynediad i Addysg Uwch lle'r ydych wedi cael Diploma Llwyddo gyda 45 Llwyddo
48 o bwyntiau UCAS
Yn ogystal â:
Llwyddo mewn tri phwnc TGAU ar radd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth).
Beth sy'n digwydd nesaf?
Gall cymhwyster mewn busnes eich helpu i ddatblygu eich gyrfa mewn cwmniau sector cyhoeddus a phreifat mewn rolau fel Swyddog Gweithredol Marchnata, Rheolwr Manwerthu, Swyddog AD neu Gynorthwyydd Cyllid. Gydag astudiaeth neu hyfforddiant pellach, gallech symud ymlaen i rolau fel Banciwr, Tanysgrifennwr Yswiriant, Ymgynghorydd Rheoli neu Reolwr Datblygu Busnes.
Ychwanegwch i ennill BA (Anrh) Rheolaeth Busnes
Gwybodaeth Ychwanegol
Cynhelir y cwrs hwn am 2 flynedd, llawn amser neu 3 blynedd yn rhan amser.
Mae'r cwrs hwn wedi'i ryddfreinio gan Brifysgol De Cymru.
Cod UCAS yw: N102
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
Telerau a amodau
Darganfyddwch fwy
PFHD0037AA
Parth Dysgu Torfaen
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 12 Medi 2023
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr