HND mewn Gofal Iechyd Cyflewnol (gyda Statws Ymarferydd)

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
18 Medi 2023

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

I gael lle ar y cwrs, bydd angen:

  • Cymhwyster Lefel 3 arnoch mewn Therapïau Cyfannol bwnc cysylltiedig.
  • 5 TGAU Gradd C neu'n uwch
  • Cyfweliad llwyddiannus yn dangos ymrwymiad i astudio a photensial academaidd

Mae Coleg Gwent yn croesawu ceisiadau gan ddysgwyr hyn sy'n edrych am y cam nesaf, neu newid gyrfa ac sydd â diddordeb yn y diwydiant.

Bydd angen gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

 

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn yn gyfle gwych i ymestyn eich dysgu a'ch profiad ym maes gofal iechyd, gan eich galluogi i ennill cymhwyster Gofal Iechyd Cyflenwol gyda statws Ymarferydd.

Mae yna gymysgedd o waith theori ac ymarferol ar y cwrs hwn, gyda phwyslais cryf ar gyfleoedd dysgu clinigol seiliedig ar waith sy'n sail i'r rhaglen.

Ar ôl cwblhau'r cwrs, mae eich HND yn cyfateb i ddwy flynedd gyntaf gradd israddedig felly dylech fod yn gymwys i gael mynediad uniongyrchol i flwyddyn olaf gradd israddedig tair blynedd mewn maes cysylltiedig.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Oes gennych ddiddordeb brwd mewn therapïau cyflenwol a chyfannol ac rydych eisiau mynd â'ch gwybodaeth i'r lefel nesaf
... Eich uchelgais yw gweithio mewn amrywiaeth o sectorau gan gynnwys practis preifat a'r diwydiant iechyd
... Rydych chi eisiau cymysgedd o ddysgu ymarferol a dysgu seiliedig ar theori/academaidd

Beth fyddaf yn ei wneud?

Cynlluniwyd y rhaglen hon i'ch galluogi i raddio fel therapydd achrededig proffesiynol, medrus iawn, a chymhwyso'ch sgiliau i ddatblygiad darpariaeth ac ymchwil gofal iechyd cyflenwol. Mae yna bwyslais cryf ar gyfleoedd dysgu clinigol seiliedig ar waith sy'n sail i'r rhaglen hon.

Bydd yr unedau byddwch yn astudio yn cynnwys:

Blwyddyn 1 - Unedau Lefel 4

  • Anatomeg a Ffisioleg 
  • Cyflwyno Ymchwil
  • Tylino Cyfannol 1
  • Tylino Cyfannol 2
  • Cyflwyniad i Faeth Dynol
  • Adweitheg Glinigol 1
  • Cyfathrebu a Gwrando
  • Ymarfer Cydweithredol Cyfoes 3

Blwyddyn 2 - Unedau Lefel 5

  • Pathoffisioleg Clefyd
  • Adweitheg Glinigol 2
  • Dulliau Ymchwil
  • Aromatherapi Clinigol 1
  • Aromatherapi Clinigol 2
  • Ymarfer Proffesiynol a Chlinigol

Dyfarniad Terfynol - HND mewn Gofal Iechyd Cyflenwol gyda Statws Ymarferydd

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno trwy raglen gytbwys o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai ac ymweliadau maes. Bydd darlithwyr gwadd ac arbenigwyr allanol hefyd yn cyfrannu at gyflwyniad y rhaglen.

Trwy ymuno â'r cwrs, rydyn ni'n disgwyl i chi ymrwymo'n llawn i'ch rhaglen astudio a mwynhau'r cyfleoedd sydd o'ch blaen. Bydd y cwrs yn gofyn i chi ddarllen o gwmpas y pwnc a bod yn ymwybodol o ymchwil gyfredol yn y maes wrth i chi symud ymlaen trwy'ch rhaglen.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl cwblhau eich cwrs HND, gallwch symud ymlaen ymhellach a chwblhau gradd israddedig ym maes therapïau cyflenwol.

Mae eich HND yn cyfateb i ddwy flynedd gyntaf gradd israddedig felly dylech fod yn gymwys i gael mynediad uniongyrchol i flwyddyn olaf gradd israddedig tair blynedd mewn maes cysylltiedig. Bydd gan wahanol brifysgolion wahanol ofynion mynediad o ran y radd sydd ei hangen arnynt yn eich HND, felly bydd angen i chi wirio gofynion mynediad y brifysgol rydych yn gobeithio astudio ynddi.

Fel arall, os ydych chi'n dymuno mynd yn syth i mewn i waith gyda'ch HND, fe welwch y gallwch chi wneud cais am swydd uwch neu swydd fwy arbenigol yn y sector.

Gwybodaeth Ychwanegol

Dyfernir y rhaglen hon gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd.

Bydd angen i chi wisgo gwisg glinigol ac esgidiau priodol y gallwch eu prynu trwy'r coleg. Ni fydd y rhain yn costio mwy na £100.

Bydd angen i chi hefyd wneud cais am a thalu am wiriad DBS a gellir trefnu hyn drwy'r coleg hefyd.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio HND mewn Gofal Iechyd Cyflewnol (gyda Statws Ymarferydd)?

CFHD0036AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 18 Medi 2023

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr