En

HND Twristiaeth, Lletygarwch a Rheoli Digwyddiadau

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Teithio a Thwristiaeth

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
17 Medi 2024

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

EDEXCEL / BTEC gyda Llwyddo neu 40 pwynt neu gyfwerth.

Croesewir hefyd ceisiadau gan ddysgwyr hyn sy'n awyddus i newid cyfeiriad eu gyrfa ac sydd â diddordeb yn y diwydiant.

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn yn gyfle cyffrous i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o reoli digwyddiadau a'r lletygarwch cysylltiedig yn effeithiol. Mae'r cwrs yn rhoi trosolwg i chi o gyfleoedd a datblygiadau yn y sector, ac yn hwyluso datblygiad eich sgiliau sy'n gysylltiedig â hyn. Mae twristiaeth a lletygarwch yn parhau i fod yn un o'r diwydiannau mwyaf poblogaidd yn y DU ac mae'r sector yn parhau i groesawu llawer o unigolion galluog a hyderus gydag amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa hwyliog a boddhaus.

Bydd y cwrs hwn yn datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o reoli yn y maes Digwyddiadau, Twristiaeth a Lletygarwch yn effeithiol.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Oes gennych ddiddordeb brwd mewn teithio, twristiaeth a lletygarwch

... Eich uchelgais yw gweithio mewn swydd uchel neu swydd reoli

... Rydych chi eisiau cymysgedd o ddysgu ymarferol a dysgu seiliedig ar theori

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae twristiaeth a lletygarwch yn parhau i fod yn un o'r diwydiannau mwyaf poblogaidd yn y DU ac mae'r sector yn parhau i groesawu llawer o unigolion galluog a hyderus gydag amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa hwyliog a boddhaus.

Y modiwlau sydd wedi'u cynnwys yn y rhaglen yw:

Blwyddyn 1 - Unedau Lefel 4:

  • Digwyddiadau mewn Cyd-destun
  • Egwyddorion Lletygarwch
  • Y Diwydiant Twristiaeth
  • Cyllid i Reolwyr
  • Rheoli Pobl a Sefydliadau
  • Cynllunio Datblygiad Personol
  • Amrywiaeth a Chynhwysiant Cymdeithasol ar gyfer Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau

Blwyddyn 2 - Unedau Lefel 5

  • Rheoli Lletygarwch Byd-eang Heddiw
  • Marchnata ar gyfer Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau
  • Rheoli Adnoddau Dynol
  • Dulliau Ymchwil
  • Profiad Gwaith gyda Chynllunio Datblygiad Personol
  • Datblygu Busnes a Chyllid
  • Digwyddiadau Cymdeithasol a Chynllunio Partïon
  • Datblygu a Rheoli Cyrchfan

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gael lle ar y cwrs, Gwobr EDEXCEL / BTEC gyda Llwyddo neu 40 pwynt neu gyfwerth, neu brofiad perthnasol yn y diwydiant.

Croesewir ceisiadau hefyd gan ddysgwyr hyn sy'n awyddus i newid cyfeiriad eu gyrfa ac sydd â diddordeb yn y diwydiant.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, gallwch barhau i orffen gradd israddedig ym maes twristiaeth, teithio, y diwydiant hamdden neu reoli digwyddiadau.

Mae eich HND yn cyfateb i ddwy flynedd gyntaf gradd israddedig felly dylech fod yn gymwys i gael mynediad uniongyrchol i flwyddyn olaf gradd israddedig tair blynedd mewn maes cysylltiedig. Bydd gan wahanol brifysgolion wahanol ofynion mynediad o ran y radd sydd ei hangen arnynt yn eich HND, felly mae'n werth gwirio hyn cyn gynted ag y byddwch yn penderfynu pa brifysgol yr hoffech astudio ynddi.

Fel arall, os ydych chi'n dymuno mynd yn syth i mewn i waith gyda'ch HND, fe welwch y gallwch chi wneud cais am swydd uwch neu swydd fwy arbenigol nag o'r blaen.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio HND Twristiaeth, Lletygarwch a Rheoli Digwyddiadau?

CFHD0031AB
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 17 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr