En

HND Peirianneg Fecanyddol

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Peirianneg

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Ffioedd

Ffioedd
I'w gadarnhau

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
06 Medi 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Iau
Amser Dechrau

Amser Dechrau
09:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
16:00

Yn gryno

Cyflwynir ein HND Peirianneg Fecanyddol Lefel 5 ar y cyd â Phrifysgol De Cymru (PDC), a byddwch yn graddio o’r brifysgol hon ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.

Mae'r cwrs yn cynnig sylfaen gadarn yn y prif gysyniadau a sgiliau ymarferol sydd eu hangen yn y sector. Mae'r cwrs, sy'n cael ei gydnabod yn genedlaethol gan gyflogwyr, hefyd yn caniatáu astudio pellach ar lefel gradd a thu hwnt.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...y rheiny sydd eisiau gyrfa mewn Peirianneg, Dylunio, Gweithgynhyrchu neu Gynnal a Chadw

...yn datrys problemau’n dda

...y rheiny sydd eisiau cyflawni statws peiriannydd siartredig

...myfyrwyr sydd eisiau dod yn Beiriannydd Mecanyddol cymwys neu gymryd y camau nesaf o fewn y diwydiant hwn

...y rheiny sydd eisiau datblygu eu sgiliau a’u harbenigedd mewn Peirianneg Fecanyddol

Cynnwys y cwrs

Mae’r cwrs hwn yn cael ei gyflwyno ar y cyd a Phrifysgol De Cymru, felly, byddwch yn cael defnyddio holl gyfleusterau’r brifysgol, yn cynnwys llyfrgelloedd, campfeydd ac ati, a byddwch yn cael eich addysgu yn unol â safonau Prifysgol De Cymru gan ddarlithwyr sydd â PhD neu raddau Meistr yn y pynciau; Fodd bynnag, byddwch yn talu llawer iawn llai a chewch aros yn agos i le rydych yn byw neu’n gweithio.

Mae’r cwrs hwn yn cael ei gyflwyno ar y cyd a Phrifysgol De Cymru, felly, byddwch yn cael defnyddio holl gyfleusterau’r brifysgol, yn cynnwys llyfrgelloedd, campfeydd ac ati, a byddwch yn cael eich addysgu yn unol â safonau Prifysgol De Cymru gan ddarlithwyr sydd â PhD neu raddau Meistr yn y pynciau; Fodd bynnag, byddwch yn talu llawer iawn llai a chewch aros yn agos i le rydych yn byw neu’n gweithio.

 

Y nod yw creu peiriannydd gwybodus a chymwys tu hwnt a fydd yn bodloni gofynion diwydiant. Mae hon yn rhaglen alwedigaethol arbenigol sydd â phwyslais cryf ar waith.

Ceir cymysgedd o sesiynau damcaniaethol ac ymarferol ar y cwrs hwn. Byddwch yn astudio unedau, gan gynnwys:

 

Blwyddyn 1

  • Thermohylifau 2
  • Cynllunio Peirianneg Gynaliadwy
  • Hanfodion Rheoli a Pheirianneg Busnes

Blwyddyn 2

  • Systemau Rheoli ac Offeryniaeth
  • Gwyddoniaeth Fecanyddol 2
  • Prosesau Cynhyrchu

Gofynion Mynediad

Rydym yn ystyried pob ymgeisydd ar sail unigol, a gallwch dderbyn cynnig yn seiliedig ar gymwysterau a phroffil personol, ond fel arfer byddech angen o leiaf un o’r canlynol.

  • HNC Peirianneg Fecanyddol neu gymhwyster lefel 4 gyfwerth
  • DD ar lefel Safon Uwch
  • Graddau DE ar lefel Safon Uwch, a gradd C ym Magloriaeth Cymru
  • Mynediad i Addysg Uwch lle'r ydych wedi cael Diploma Llwyddo gyda 45 Llwyddo

Yn ogystal â: Llwyddo mewn tri phwnc TGAU ar radd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth).

Gwybodaeth Ychwanegol

Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau cyflogadwyedd hanfodol megis hunanreolaeth, gweithio mewn tîm, ymwybyddiaeth o gwsmeriaid busnes, datrys problemau, cyfathrebu, rhifedd, ac agwedd gadarnhaol at waith.

Byddwch angen eich offer ysgrifennu eich hunan, h.y. ffolderi, rhanwyr pwnc, pinnau ysgrifennu, pensiliau, pren mesur a chyfrifiannell wyddonol.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio HND Peirianneg Fecanyddol?

CPHD0017AC
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 06 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr