Technolegau Digidol HNC

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
20 Medi 2023

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Mercher
Amser Dechrau

Amser Dechrau
11:15

Amser Gorffen

Amser Gorffen
20:15

Yn gryno

Mae'r cwrs hyblyg hwn ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau cyfle i ddilyn llwybr arbenigol ar lefel 4, gan gasglu’r wybodaeth sydd ei hangen i symud ymlaen i addysg uwch neu gyflogaeth mewn maes arbenigol. Mae hon yn rhaglen ddysgu sydd wedi cael ei dylunio i lenwi’r bylchau sgiliau yn y gweithlu presennol a meithrin talent heddiw i gyd-fynd ag amgylchedd rhyngwladol.

Mae’r unedau Lefel 4 yn gosod sylfaen ddysgu drwy roi cyflwyniad eang i dechnolegau digidol ac i ystod o swyddogaethau arbenigol technoleg ddigidol. Mae hyn yn datblygu a chryfhau sgiliau craidd ac yn paratoi'r myfyriwr ar gyfer pynciau arbenigol ar Lefel 5 neu i fynd i fyd gwaith gyda'r nodweddion angenrheidiol mewn swyddi sy'n gofyn am gyfrifoldeb personol.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... cymryd y cam nesaf tuag at yrfa mewn technolegau digidol

... unrhyw un sydd yn frwd dros weithio yn y sector digidol

Cynnwys y cwrs

Tystysgrif Genedlaethol Uwch BTEC Lefel 4 mewn Technolegau Digidol

Amlinelliad o'r cwrs:

Uned 1: Ymarfer Proffesiynol yn yr Economi Ddigidol

Uned 2: Arloesi a Thrawsnewid Digidol

A 90 credyd o’r Banc Gweithredol Lefel 4

Gall opsiynau gynnwys:

  • Rhwydweithio
  • Seiberddiogelwch
  • Diogelwch
  • Data Mawr a Delweddu
  • Rhaglennu
  • Rhwydweithio yn y Cwmwl
  • Hanfodion Cwmwl
  • Dylunio a Datblygu Cronfeydd Data
  • Cylchoedd Bywyd Datblygiadau Meddalwedd
  • Dadansoddeg Data
  • Animeiddio
  • Datblygiadau Gemau
  • Hanfodion Deallusrwydd Artiffisial a Systemau Deallusrwydd Artiffisial
  • Dylunio a Datblygu Gwefannau
  • Rheolaeth yn yr Economi Digidol
  • Rheoli Prosiectau

Bydd myfyrwyr yn cael ystod eang o wybodaeth busnes sy’n gysylltiedig â sgiliau ymarferol a gafwyd mewn ymchwil, astudiaeth annibynnol, astudio dan gyfarwyddyd a senarios yn y gweithle. Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau galwedigaethol sydd o gymorth iddynt ddatblygu ymddygiadau galwedigaethol (yr agweddau a'r dulliau sydd eu hangen i fod yn gymwys) a sgiliau trosglwyddadwy. Sgiliau trosglwyddadwy yw sgiliau cyfathrebu, gwaith tîm, ymchwilio a dadansoddi, sef sgiliau sy'n cael eu hystyried yn werthfawr mewn addysg uwch ac yn y gweithle.

Ar ôl astudio Tystysgrif Genedlaethol Uwch Lefel 4 mewn Technolegau Digidol bydd gan fyfyrwyr wybodaeth dda o gysyniadau sylfaenol technoleg ddigidol. Byddant yn gymwys mewn ystod o sgiliau pwnc penodol yn ogystal â'r sgiliau a'r gwerthoedd cyffredinol ar gyfer meysydd allweddol o fusnes yn ymwneud â thechnoleg ddigidol.

Bydd graddedigion sy’n cwblhau'r Dystysgrif Genedlaethol Uwch BTEC mewn Technolegau Digidol yn gallu arddangos gwybodaeth dda o’r cysyniadau sylfaenol. Byddant yn gallu cyfathrebu yn fanwl ac yn addas, a bydd ganddynt y rhinweddau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth sy’n gofyn am beth cyfrifoldeb personol. Byddant wedi datblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy er mwyn sicrhau gwaith tîm effeithiol, mentrau annibynnol, cymhwysedd trefniadol a strategaethau datrys problemau. Byddant yn addasadwy ac yn hyblyg yn eu hymdriniaeth o dechnolegau digidol, yn dangos gwydnwch o dan bwysau, ac yn cwrdd â thargedau heriol o fewn yr adnoddau a ddarperir.

Gofynion Mynediad

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol i ddilyn y cwrs hwn. Bydd ymgeiswyr yn cael eu hystyried yn unigol gan aelodau o dîm y cwrs yn unol ag addasrwydd ar gyfer y cwrs.

Gall dysgwyr aeddfed gyflwyno proffil cyrhaeddiad mwy amrywiol sy’n debygol o gynnwys profiad gwaith (cyflogedig a/neu ddi-dâl) a/neu gyflawni ystod o gymwysterau proffesiynol yn eu sector gwaith.

Ar gyfer dysgwyr sydd wedi bod mewn addysg yn fwy diweddar, mae’r proffil mynediad yn debygol o gynnwys un o’r canlynol:

  • Cymhwyster BTEC Lefel 3 mewn busnes
  • Proffil TGAU lefel Uwch sy'n dangos perfformiad cryf mewn pwnc perthnasol neu berfformiad digonol mewn mwy nag un pwnc TGAU.
  • Cymwysterau lefel 3 cysylltiedig eraill
  • Tystysgrif Mynediad i Addysg Uwch a ddyfarnwyd gan sefydliad addysg bellach cymeradwy
  • Profiad gwaith cysylltiedig

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd y cwrs yn cynnwys asesiadau ffurfiol a gall gynnwys arholiadau.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio Technolegau Digidol HNC?

EPHC0046AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 20 Medi 2023

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr