En

HNC Peirianneg Fecanyddol

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Peirianneg

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Ffioedd

Ffioedd
I'w gadarnhau

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Mercher
Amser Dechrau

Amser Dechrau
09:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
16:00

Yn gryno

Cafodd yr HNC Peirianneg Fecanyddol Lefel 4 ei gynllunio mewn ymgynghoriad â'r diwydiant gyda’r bwriad o gysylltu â'r diwydiant lleol cymaint â phosibl, yn ei gyd-destun yn ogystal ag yn y dull mynychu.

Y nod yw creu peiriannydd gwybodus a chymwys tu hwnt a fydd yn bodloni gofynion y byd gwaith. Mae hon yn rhaglen alwedigaethol arbenigol sydd â phwyslais cryf ar waith.

Mae'r cwrs yn cynnig sylfaen gadarn yn y prif gysyniadau a sgiliau ymarferol sydd eu hangen yn y sector, ac mae'n cael ei gydnabod yn genedlaethol gan gyflogwyr, yn ogystal â chaniatáu astudiaeth bellach ar lefel gradd a thu hwnt.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...y rheiny sydd eisiau gyrfa mewn Peirianneg, Dylunio, Gweithgynhyrchu neu Gynnal a Chadw

...myfyrwyr sydd â diddordeb mewn dylunio a gweithgynhyrchu peiriannau gwres, systemau electro niwmatig a hydrolig, injan jet, cerbydau, rocedi ac awyrennau

...myfyrwyr sy’n ffafrio cyrsiau galwedigaethol, ymarferol

...unigolion rhifog, creadigol sy’n gallu cymell eu hunain

Cynnwys y cwrs

Mae'r cwrs yn cynnig sylfaen gadarn yn y prif gysyniadau a sgiliau ymarferol sydd eu hangen yn y sector.

Byddwch yn astudio unedau, gan gynnwys:

Blwyddyn 1

  • Dylunio Peirianneg
  • Mathemateg Peirianneg
  • Gwyddoniaeth Beirianneg
  • Egwyddorion Mecanyddol

Blwyddyn 2

  • Rheoli Prosiect Peirianneg Proffesiynol
  • Deunyddiau, Eiddo, a Phrofi
  • Hanfodion Thermodynameg a Pheirannau Gwres
  • Systemau electro niwmatig a hydrolig

Byddwch yn dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a gweithdai ymarferol. 

Asesiad

Bydd dysgwyr yn cael eu hasesu drwy waith cwrs ac ambell arholiad.

Gofynion Mynediad

Fel rheol byddai angen o leiaf un o'r canlynol arnoch chi:

  • Proffil Teilyngdod / Teilyngdod BTEC Lefel 3 perthnasol
  • CC ar Lefel A.
  • Graddau CC ar Lefel A ynghyd â C mewn Bagloriaeth Cymru

Hefyd: Pas TGAU mewn tri phwnc ar radd C neu'n uwch i gynnwys mathemateg ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth).

Bydd myfyrwyr aeddfed sydd â phrofiad perthnasol yn y diwydiant nad ydynt yn cwrdd â'r cymwysterau academaidd yn cael eu hystyried yn unigol trwy gyfweliad.

Gwybodaeth Ychwanegol

Wedi i chi gwblhau'r cwrs, gallwch fynd ymlaen i HND Lefel 5 mewn Peirianneg Fecanyddol neu flwyddyn gyntaf/ail flwyddyn rhaglen gradd prifysgol.

Fel arall, gallwch symud ymlaen i swyddi technegwyr peirianneg.

Byddwch yn mynd i'r coleg am wyth awr yr wythnos, 30 wythnos y flwyddyn.

 

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio HNC Peirianneg Fecanyddol?

CPHC0029AC
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr