HNC Busnes

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifeg, Busnes a’r Gyfraith
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Dyddiad Cychwyn
19 Medi 2023
Dydd Mawrth
Amser Dechrau
13:30
Amser Gorffen
21:00
Yn gryno
Nod y Tystysgrif BTEC Cenedlaethol Uwch mewn Busnes yw datblygu myfyrwyr fel unigolion proffesiynol, sy'n gallu meddwl yn annibynnol yn ogystal â bodloni gofynion cyflogwyr ac addasu i fyd sy’n newid yn barhaus. Nod y cymwysterau yw ehangu mynediad i addysg uwch a gwella rhagolygon gyrfa’r rhai sy’n ymgymryd â hwy.
Mae’r cymhwyster lefel mewn Busnes yn gosod y llwyfan ar gyfer y sylfeini ym mhob busnes, pob sector, a phob diwydiant, sy’n golygu y bydd y rhaglen hon yn helpu llawer o unigolion i symud i’r diwydiant hwn am y tro cyntaf, neu ennill y sgiliau a’r tystysgrifau sydd eu hangen ar gyfer dyrchafiad mewnol. Er mwyn helpu ein myfyrwyr i gael y cyfleoedd gorau o lwyddo, byddwn yn ymdrin ag ystod o gynnwys i roi dealltwriaeth eang o'r amgylchedd busnes.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...y rhai sydd eisiau ennill cymhwyster lefel uwch drwy astudiaeth ran amser a hyblyg sy'n eu galluogi i astudio tra'n gweithio
...y rhai sy'n dymuno datblygu eu sgiliau busnes, eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth yn ogystal â'r gallu a'r hyder i weithio ar draws swyddogaethau busnes gwahanol ac ystod o sefyllfaoedd busnes cymhleth
...datblygu'r sgiliau craidd ar gyfer ystod o yrfaoedd mewn busnes, gan gynnwys rheolaeth, adnoddau dynol, marchnata, entrepreneuriaeth, cyfrifeg a chyllid
...datblygu dealltwriaeth o'r effaith sylweddol y mae technoleg ddigidol newydd yn ei chael ar yr amgylchedd busnes
...cael cipolwg ar weithredoedd busnes rhyngwladol a'r cyfleoedd a'r heriau sy'n cael eu cynnig gan farchnad fyd-eang
...cyfarparu dysgwyr â'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth am sefydliadau diwylliannol amrywiol, materion traws-ddiwylliannol, amrywiaeth a gwerthoedd
Cynnwys y cwrs
Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Busnes BTEC Lefel 4 Pearson
Unedau Craidd:
- Busnes a'r Amgylchedd Busnes
- Cynllunio a Phrosesau Marchnata
- Rheoli Adnoddau Dynol
- Arwain a Rheoli
- Egwyddorion Cyfrifeg
- Rheoli Prosiect Busnes Llwyddiannus
A dwy uned o'r unedau dewisol canlynol:
- Cyfraith Busnes
- Arloesedd a Masnacheiddio
- Mentrau Entrepreneuraidd
- Cofnodi Trafodion Ariannol
- Sgiliau Rhifiadol a Data Busnes
- Datrysiadau Recriwtio Gweithredol
- Rheoli Cyfalaf Dynol
- Busnes Digidol ar Waith
- Rheoli Gweithrediadau
- Rheoli Profiad y Cwsmer
- Hunaniaeth ac Ymarfer Proffesiynol
- Profiad Gwaith
Mae'r unedau Lefel 4 yn gosod y sylfeini dysgu drwy ddarparu cyflwyniad eang i fusnes a swyddogaethau busnes gwahanol. Mae hyn yn datblygu a chryfhau sgiliau craidd ac yn paratoi'r myfyriwr ar gyfer pynciau arbenigol ar Lefel 5 neu i gael mynediad at waith gyda'r nodweddion angenrheidiol mewn swyddi sy'n gofyn peth cyfrifoldeb personol.
Bydd myfyrwyr yn cael ystod eang o wybodaeth busnes sy’n gysylltiedig â sgiliau ymarferol a gafwyd mewn ymchwil, astudiaeth annibynnol, astudio dan gyfarwyddyd a senarios yn y gweithle. Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau galwedigaethol sydd o gymorth iddynt ddatblygu ymddygiadau galwedigaethol (yr agweddau a'r dulliau sydd eu hangen i fod yn gymwys) a sgiliau trosglwyddadwy. Sgiliau trosglwyddadwy yw sgiliau cyfathrebu, gwaith tîm, ymchwilio a dadansoddi, sef sgiliau sy'n cael eu hystyried yn werthfawr mewn addysg uwch ac yn y gweithle.
Erbyn diwedd Lefel 4, bydd gan fyfyrwyr wybodaeth gadarn o gysyniadau sylfaenol busnes. Byddant yn gymwys mewn ystod o sgiliau pwnc penodol yn ogystal â'r sgiliau a'r gwerthoedd cyffredinol ar gyfer meysydd allweddol mewn busnes.
Bydd y cwrs hwn yn helpu i’ch paratoi ar gyfer gyrfa mewn busnes neu gallech ddewis datblygu i HND (Lefel 5) mewn Astudiaethau Busnes.
Gofynion Mynediad
Gall dysgwyr aeddfed gyflwyno proffil cyrhaeddiad mwy amrywiol sy’n debygol o gynnwys profiad gwaith helaeth (cyflogedig a/neu ddi-dâl) a/neu gyflawni ystod o gymwysterau proffesiynol yn eu sector gwaith.
Ar gyfer dysgwyr sydd wedi bod mewn addysg yn ddiweddar, mae’r proffil mynediad yn cynnwys un o’r canlynol:
- Cymhwyster BTEC Lefel 3 mewn busnes
- Proffil lefel TAG Uwch sy'n dangos perfformiad cryf mewn pwnc perthnasol neu berfformiad digonol mewn mwy nag un pwnc TAG. Mae’r proffil hwn yn debygol o gael ei gefnogi gan raddau TGAU A* i C
- Cymwysterau lefel 3 cysylltiedig eraill
- Tystysgrif Mynediad i Addysg Uwch a ddyfarnwyd gan sefydliad addysg bellach cymeradwy
- Profiad gwaith cysylltiedig
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae hwn yn gwrs Addysg Uwch a gynigir yn rhan amser a gellir ei gyflawni fel a ganlyn:
Blwyddyn 1 rhan amser 60 credyd (ar Lefel 4)
Blwyddyn 2 rhan amser 60 credyd (ar Lefel 4)
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
Telerau a amodau
Darganfyddwch fwy
EPHC0011AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 19 Medi 2023
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr