NPTC PA6 mewn Defnyddio Taenwyr Llaw yn Ddiogel Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Amaethyddiaeth a Gofal Anifeiliaid
Lefel
2
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Brynbuga
Ffioedd
£300.00
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn
16 Mai 2023
Dydd Mawrth a Dydd Mercher
Amser Dechrau
09:00
Amser Gorffen
16:00
Hyd
2 ddiwrnod
Yn gryno
Mae'r gyfraith yn nodi bod rhaid i unrhyw un sy'n defnyddio neu'n taenu plaladdwyr yn fasnachol gael Tystysgrif Plaladdwr ddilys er mwyn cydymffurfio â rheoliadau. Nid yw'r ddeddfwriaeth hon yn opsiynol ac mae'n berthnasol i wirfoddolwyr, yn ogystal â staff cyflogedig a hunangyflogedig.
Mae sawl gwahanol gategori cyffredinol mewn hyfforddiant plaladdwr. Unwaith y bydd gennych dystysgrif damcaniaeth PA1: gallwch yna ymgymryd ag unrhyw fodiwl arall, gan sicrhau eich bod yn gyfreithiol a diogel wrth ddefnyddio cemegion.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...Unrhyw un sy'n gweithio mewn Amaethyddiaeth, Garddwriaeth neu'r Diwydiant Coedwigaeth
...Unrhyw un sy'n gweithio mewn gweithfeydd mwyniannau, clybiau pêl-droed etc
...Unrhyw un sydd eisiau datblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth
Cynnwys y cwrs
Mae'r hyfforddiant hwn yn rhoi'r wybodaeth hanfodol i daenu plaladdwr â chwistrellydd cefn yn gywir.
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys:
- Gosod a gwirio cyfarpar
- Mesur ardaloedd
- Graddnodi cyfarpar
- Cymysgu a mesur cemegion
- Glanhau a storio cyfarpar
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys defnyddio plaladdwyr gyda chwistrellydd cefn, drwy ffroenell hydrolig neu chwistrellwyr o fath cylchol atomeiddiwr.
Wedi i chi gwblhau PA1, y modiwl damcaniaeth sylfaenol, gallwch fynd yn syth i wneud amrywiaeth o unedau ymarferol.
Gofynion Mynediad
Cymhwysiad Defnyddio Plaladdwr (PA1) ac yn 16 oed neu'n hyn.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae hwn yn gwrs 3 diwrnod (2 ddiwrnod o hyfforddiant ac 1 diwrnod o asesu). Cynhelir y cwrs yn ystod yr wythnos.
Bydd yr holl gyfarpar diogelu personol yn cael ei ddarparu gan y coleg.
Byddwch yn astudio drwy ddysgu yn y dosbarth a gwaith ymarferol.
UCEU0156AA
Campws Brynbuga
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 16 Mai 2023
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr