En

Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr

Dull Astudio
Dull Astudio
Hyblyg
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Iechyd a Diogelwch

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

Bydd y cwrs hwn yn rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i’r dysgwyr ar gyfer adnabod y risgiau sy’n gysylltiedig â sylweddau peryglus a sut i’w rheoli.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

Caiff y cwrs hwn ei anelu at unigolion sy’n gweithio mewn amgylchedd lle mae’n debygol y byddant yn dod i gysylltiad â sylweddau peryglus. Mae hyn yn cynnwys gweithdai mewn meysydd fel gweithgynhyrchu, glanhau, gofal iechyd, trafnidiaeth, cyfleustodau ac amgylcheddau swyddfa.

Cynnwys y cwrs

Ymdrinnir â’r pynciau canlynol:

  • Cyfreithiau’n ymwneud a sylweddau peryglus yn y gweithle
  • Rheoliadau COSHH 2002
  • Asesiadau Risg
  • Defnyddio sylweddau peryglus yn ddiogel yn y gweithle
  • Rhagofalon a gweithdrefnau rheoli ar gyfer delio â sylweddau peryglus

Gofynion Mynediad

Ni cheir unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn, ond bydd yn ofynnol ichi ddeall eich amgylchedd gwaith.

Gwybodaeth Ychwanegol

Fel arfer caiff y cwrs hwn ei gyflwyno dros hanner diwrnod (3 awr). Bydd y mynychwyr a fydd yn cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn cael tystysgrif bresenoldeb Coleg Gwent.

Ymhellach, gellir cyflwyno’r cwrs hwn ar ffurf Dyfarniad Lefel 2 HABC achrededig mewn Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd.

Ble alla i astudio Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)?

BCEM0011AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.