En

Symud, Codi a Chario

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr

Dull Astudio
Dull Astudio
Hyblyg
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Iechyd a Diogelwch

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

Mae’r cwrs yn ymdrin â’r egwyddorion cyffredinol sy’n ymwneud ag atal damweiniau wrth godi a chario, gan wneud y cyfranogwyr yn fwy ymwybodol o ddiogelwch. Bydd yn cynorthwyo i gynnwys gweithwyr mewn gwelliannau iechyd a diogelwch, ynghyd ag addysgu technegau codi priodol i’r mynychwyr (codi cinetig) a’u galluogi i gynnal asesiadau risg syml yn ymwneud â chodi a chario. O’r herwydd, bydd modd i’r cwrs gynorthwyo i dynnu sylw at beryglon cyffredin y bydd pobl yn debygol o ddod ar eu traws yn y rhan fwyaf o weithleoedd.

Gellir teilwra’r cwrs hwn i ddiwallu’r gofynion busnes a’r amgylcheddau gwaith.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

…pob gweithiwr, yn cynnwys is-oruchwylwyr, heb hyfforddiant ffurfiol mewn codi a chario.

Cynnwys y cwrs

Bydd y cwrs yn ymdrin â sut i wneud y canlynol:

  • Pennu peryglon cyffredin sy’n debygol o fod yn bresennol yn y gweithle.
  • Defnyddio technegau codi priodol (codi cinetig).
  • Cynnal asesiadau risg syml yn ymwneud â chodi a chario.
  • Deall deddfwriaethau perthnasol – HASWA 1974, Rheoliadau Codi a Chario 1992. Sicrhau bod y mynychwyr yn deall sut y mae modd i’r camau a gymerant eu rhoi eu hunain, eu cydweithwyr, neu bobl sy’n mynd trwy’r gweithle, mewn perygl.

Er na chaiff y cwrs hwn mo’i asesu, bydd yr ymgeiswyr yn mynd i’r afael â’r canlynol:

  • Technegau codi
  • Pennu risgiau a chynnig atebion
  • Cwis iechyd a diogelwch

Gofynion Mynediad

Ni cheir unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.

Gwybodaeth Ychwanegol

Fel arfer caiff y cwrs hwn ei gyflwyno dros hanner diwrnod (3 awr). Bydd y mynychwyr a fydd yn cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn cael tystysgrif bresenoldeb Coleg Gwent.

Ymhellach, gellir cyflwyno’r cwrs hwn ar ffurf Dyfarniad Lefel 2 HABC achrededig mewn Symud, Codi a Chario Diogel (Codi a Chario).

Ble alla i astudio Symud, Codi a Chario?

BCEM0010AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.