City & Guilds Dyfarniad mewn Addysg a Hyfforddiant Lefel 3
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr
Lefel
3
Hyblyg
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Hyfforddiant, Asesiad a Sicrhau Ansawdd
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Yn ymdrin â gwybodaeth a sgiliau y mae athrawon/hyfforddwyr ym maes addysg uwch neu hyfforddiant sgiliau, bydd y cwrs hwn yn rhoi dealltwriaeth hanfodol i chi o’ch rôl a’ch cyfrifoldeb yn ymwneud â deddfwriaeth, cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a diwallu anghenion y dysgwyr.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
…gyflwyno egwyddorion addysgu/hyfforddi i rywun nad yw mewn rôl addysgu.
…rhywun sy’n gweithio, neu eisiau gweithio, yn y sector addysg a sgiliau neu sydd newydd gychwyn mewn rôl addysgu/hyfforddi.
Cynnwys y cwrs
Ei nod yw eich galluogi i roi cymorth dysgu, cynllunio a darparu sesiynau gan ddefnyddio adnoddau priodol a dulliau dysgu, canfod nodweddion asesu ffurfiol ac adborth. Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch yn gallu:
- Egluro’r rolau, y cyfrifoldebau a’r perthnasau mewn addysg a hyfforddiant
- dangos dulliau dysgu ac addysgu cynhwysol
- Disgrifio egwyddorion ac ymarfer asesu
Cewch eich asesu ar 8 darn o waith ysgrifenedig a darparu sesiwn meicro-addysgu ac asesu 2 gydweithiwr. Er mwyn cael y cymhwyster hwn, rhaid pasio pob asesiad a marc pasio pob asesiad yw 70%. Wedi hyn, cewch Ddyfarniad C & G Lefel 3 mewn Addysg a Hyfforddiant.
Gofynion Mynediad
Er nad oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol, dylech fod yn 19 neu’n hyn neu yn gallu darllen a dehongli tasgau ysgrifenedig, ysgrifennu atebion mewn fformat darllenadwy, dealladwy a threfnu gwybodaeth ysgrifenedig yn glir ac mewn modd cydlynus. Hefyd, bydd angen i chi ystyried pwnc i’w gyflwyno y mae ganddynt brofiad neu arbenigedd ynddo.
Gwybodaeth Ychwanegol
Wedi cwblhau’r cwrs hwn, gallech wneud cynnydd i’n dyfarniadau NVQ Asesydd a Gwiriwr, Lefel 3 mewn Hyfforddi a Mentora neu ystyried cwrs TAR.
BCEM0007AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.