En

ILM Tystysgrif mewn Arwain a Rheoli Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Hyblyg
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Busnes, Cyllid a Rheoli

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Dyddiau
Dyddiau
Hyblyg

Yn gryno

Dyma gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol, a’i fwriad y meithrin sgiliau rheoli craidd y dysgwyr gyda hyfforddiant ymarferol, cyfranogol sy’n cysylltu’n ôl â’r gweithle. Bydd y cyrsiau’n cael eu haddysgu gan diwtoriaid profiadol sydd wedi bod mewn swyddi rheoli eu hunain.

Bydd y cwrs hwn yn mynd i’r afael â'r un pynciau â Dyfarniad Lefel 3 ILM mewn Arwain a Rheoli, ond mae’n ymdrin â phob maes llafur yn fanylach o lawer, gan roi gwell dealltwriaeth. Felly, mae'r cwrs hwn yn gofyn am fwy o oriau astudio a mwy o waith a asesir, gan fyfyrwyr.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

…pawb sydd â chyfrifoldebau rheoli ond dim hyfforddiant ffurfiol, ac sydd o ddifrif ynglyn â meithrin eu galluoedd.

…arweinwyr tîm sy’n awyddus i symud i’r lefel reoli nesaf.

…rheolwyr sydd angen tywys pobl trwy newid sefydliadol, toriadau yn y gyllideb neu bwysau o fath arall.

Cynnwys y cwrs

Bydd tiwtoriaid y cwrs yn archwilio’r wybodaeth, y sgiliau a’r agweddau sy’n angenrheidiol ar gyfer arwain a rheoli mewn modd effeithiol, a hefyd bydd y dysgwyr yn mynd i’r afael ag asesiadau er mwyn sicrhau bod yr hyn a ddysgant yn cael ei drosglwyddo’n ôl i’r gweithle. Ar ddiwedd y cwrs, bydd y dysgwyr:

  • wedi dysgu amrywiaeth o sgiliau rheoli allweddol ac wedi’u rhoi ar waith
  • wedi meithrin eu galluoedd arwain – a byddant yn gallu ysgogi ac ennyn diddordeb eu tîm a rheoli perthnasoedd yn hyderus
  • yn is-reolwyr mwy effeithiol a hyderus
  • yn deall sut i ysgogi er mwyn gwella perfformiad

Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, bydd y dysgwyr yn ennill Dyfarniad Lefel 3 Tystysgrif  Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth.

Gofynion Mynediad

Ni cheir unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Following this course learners could progress to the ILM Level 5 Award in Leadership & Management Skills or ILM Level 3, 5 or 7 NVQ Diploma in Management.

Ble alla i astudio ILM Tystysgrif mewn Arwain a Rheoli Lefel 3?

BCEM0003AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.