En

ILM Dyfarniad mewn Arweinyddiaeth a Sgiliau Tîm Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Hyblyg
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Busnes, Cyllid a Rheoli

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Dyddiau
Dyddiau
Hyblyg

Yn gryno

Bwriad y cwrs hwn yw meithrin sgiliau arweinyddiaeth craidd ar gyfer y rhai sydd eisoes mewn rôl arwain neu’r rhai sy’n ystyried ysgwyddo rôl o’r fath. Caiff y cwrs ei gyflwyno gan diwtoriaid profiadol sydd wedi bod mewn rolau rheoli eu hunain, ac mae’r hyfforddiant yn ymarferol, yn gyfranogol ac yn cysylltu’n ôl â’r gweithle.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

…arweinwyr timau a chelloedd

…aelodau timau a hunanreolir

…arweinwyr tîm newydd neu ddarpar arweinwyr tîm

Cynnwys y cwrs

Bydd y cwrs yn rhoi sylfaen i’r dysgwyr ar gyfer dod yn fwy effeithiol a hyderus yn eu rôl arwain. Bydd yn mynd i’r afael â dwy uned o blith y cymhwyster Lefel 2:

  • Deall timau sy’n gweithio’n effeithiol – meithrin sgiliau o ran sicrhau bod timau’n gweithio’n effeithiol
  • Cynllunio a monitro gwaith – meithrin dealltwriaeth a gallu i gynllunio a monitro gwaith y tîm mewn modd effeithiol ac effeithlon.

Ymhellach, ar gyfer pob uned bydd y dysgwyr yn mynychu gweithdai dan arweiniad hyfforddwr a byddant yn llunio aseiniad ysgrifenedig.

 

Gofynion Mynediad

Ni cheir unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.

Gwybodaeth Ychwanegol

Ar ôl i’r dysgwyr gwblhau’r asesiadau’n llwyddiannus, byddant yn ennill Dyfarniad Lefel 2 y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Arweinyddiaeth a Sgiliau Tîm.

Gallant gamu yn eu blaen i astudio Tystysgrif Lefel 2 ILM mewn Arweinyddiaeth a Sgiliau Tîm trwy ychwanegu unedau eraill at y rhai a astudiwyd ganddynt yn barod, neu efallai y byddant yn dymuno astudio Diploma (NVQ) Lefel 2 ILM mewn Arwain Tîm neu gamu yn eu blaen at Ddyfarniad Lefel 3 ILM mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth.

Ble alla i astudio ILM Dyfarniad mewn Arweinyddiaeth a Sgiliau Tîm Lefel 2?

BCEM0001AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.