City & Guilds Prentisiaeth Atgyweirio wedi Damwain (Paent) Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Prentisiaethau
Lefel
2
Dysgu yn y Gwaith
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2023
Hyd
1 flwyddyn
Yn gryno
Rhan annatod o atgyweirio cerbydau wedi damwain yw peintio'r cyrff i safon uchel. Os yw honno'n yrfa sy'n apelio atoch chi, mae'r Brentisiaeth hon yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau hanfodol i roi dechreuad da i'ch gyrfa, tra eich bod mewn gwaith ac yn ennill cyflog wrth ddysgu. Erbyn y diwedd, byddwch wedi cyflawni Diploma NVQ Lefel 2.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...unrhyw un sydd â diddordeb mewn atgyweirio cerbydau ac, yn benodol, peintio corff cerbydau
... gwella eich rhagolygon gyrfa a'ch potensial i ennill cyflog uwch
... eich galluogi i ennill cyflog wrth ichi ddysgu
Cynnwys y cwrs
Mae prentisiaethau'n cynnwys cymysgedd o ddysgu yn y gweithle a hyfforddiant coleg, sy'n rhoi’r cyfle ichi ymarfer ac i ymgorffori sgiliau newydd mewn amgylchfyd gwaith go iawn.
Byddwch yn cael eich asesu drwy waith cwrs, profion, aseiniadau, arsylwadau yn seiliedig ar eich gwaith a thystiolaeth yn seiliedig ar eich gwaith, ac wrth ichi wella drwy gydol y cwrs, byddwch yn ennill nifer o gymwysterau fel rhan o'r Brentisiaeth Lefel 2:
- Diploma NVQ Lefel 2
- Diploma Lefel 2
- Cymhwyster Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol
- Cymhwyster Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol
- Cymhwyster Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol
- Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth
Wedi ichi gwblhau'r cwrs, rydym yn disgwyl ichi fod â'r gallu i ymgymryd â'ch rôl atgyweirio wedi damwain yn hyderus a chymwys i safon y Diwydiant.
Gofynion Mynediad
I fod yn gymwys am y cwrs hwn, bydd angen ichi fod â Diploma Lefel 1 a/neu TGAU gradd E neu uwch, ac mae'n rhaid ichi fod mewn gwaith yn y diwydiant modurol, yn cael eich talu yn ôl yr isafswm cyflog prentisiaeth cenedlaethol ac yn meddu ar Gytundeb Cyflogaeth. Fel Prentis, bydd angen ichi fynychu'r coleg ar sail cynllun rhyddhau un diwrnod/rhyddhau bloc, ac mae disgwyl ichi ymrwymo'n llawn i fynychu yn ogystal â pharchu eraill, bod yn frwd am y pwnc ac yn gallu cymell eich hun. Mae'n ofynnol hefyd bod eich cyflogwr yn bodloni archwiliad cefndir Iechyd a Diogelwch.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd cwblhau'r cwrs yn eich galluogi i symud ymlaen i raglen Prentisiaeth Lefel 3. Mae ein Prentisiaeth Atgyweirio wedi Damwain wedi ei hariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
NWDI0283AA
Campws Dinas Casnewydd
Dysgu yn y Gwaith
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2023
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr