En

City & Guilds Prentisiaeth Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Prentisiaethau

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Dysgu yn y Gwaith
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
05 Medi 2023

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Yn gryno

Os ydych eisoes yn gweithio yn y sector modurol ac wedi cyrraedd Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio, bydd y Brentisiaeth hon yn cyfoethogi'ch sgiliau a'ch gwybodaeth ymhellach. Erbyn y diwedd, dylech gyflawni Diploma NVQ Lefel 3 i'ch helpu i ddatblygu'ch gyrfa i'r lefel nesaf. 

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...adeiladu ar y sgiliau peirianneg fodurol yr ydych eisoes yn meddu arnynt 

... gwella eich rhagolygon gyrfa a'ch potensial i ennill cyflog uwch  

... eich galluogi i ennill cyflog wrth ichi ddysgu 

Cynnwys y cwrs

Mae prentisiaethau'n cynnwys cymysgedd o ddysgu yn y gweithle a hyfforddiant coleg, sy'n rhoi’r cyfle ichi ymarfer ac i ymgorffori sgiliau newydd mewn amgylchfyd gwaith go iawn.  

 

Byddwch yn cael eich asesu drwy waith cwrs, profion, aseiniadau, arsylwadau yn seiliedig ar eich gwaith a thystiolaeth yn seiliedig ar eich gwaith, ac wrth ichi wella drwy gydol y cwrs, byddwch yn ennill nifer o gymwysterau fel rhan o'r Fframwaith Prentisiaeth Lefel 3: 

  • Diploma NVQ Lefel 3 
  • Diploma Lefel 3 
  • Cymhwyster Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol 
  • Cymhwyster Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol 
  • Cymhwyster Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol 
  • Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth 

 

Wedi ichi gwblhau'r cwrs, rydym yn disgwyl ichi fod â'r gallu i ymgymryd â'ch rôl cynnal a chadw ac atgyweirio yn hyderus a chymwys i safon y Diwydiant. 

Gofynion Mynediad

I fod yn gymwys am y cwrs hwn, mae angen ichi fod â Phrentisiaeth Sylfaen a Diploma Lefel 2. Yn ogystal, mae'n rhaid ichi fod mewn gwaith yn y diwydiant modurol, yn cael eich talu yn ôl yr isafswm cyflog prentisiaeth cenedlaethol ac yn meddu ar Gytundeb Cyflogaeth. Fel Prentis, bydd angen ichi fynychu'r coleg ar sail cynllun rhyddhau un diwrnod/rhyddhau bloc, ac mae disgwyl ichi ymrwymo'n llawn i fynychu yn ogystal â pharchu eraill, bod yn frwd am y pwnc ac yn gallu cymell eich hun. Mae'n ofynnol hefyd bod eich cyflogwr yn bodloni archwiliad cefndir Iechyd a Diogelwch. 

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae ein Prentisiaeth Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn wedi ei hariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. 

Ble alla i astudio City & Guilds Prentisiaeth Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn Lefel 3?

NWDI0167AA
Campws Dinas Casnewydd
Dysgu yn y Gwaith
Dyddiad Cychwyn: 05 Medi 2023

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr