VTCT Diploma NVQ mewn Therapi Harddwch (Oedolion) Lefel 2
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Lefel
2
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024
Hyd
1 flwyddyn
Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer oedolion ac mae hefyd wedi'i gynllunio i weithio o gwmpas y rhai sydd â phlant yn yr ysgol. Mae'r cwrs yn cyflwyno'r disgyblaethau a sgiliau sylfaenol yn y sector harddwch.Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... Oes gennych ddiddordeb brwd mewn Therapi Harddwch
... Os ydych chi eisiau dysgu sgiliau a thechnegau harddwch newydd i gyfoethogi eich gallu presennol
... Oes ydych yn ystyried gyrfa fel Therapydd Harddwch
Cynnwys y cwrs
Mae Therapi Harddwch yn ddiwydiant ar dwf sy’n cynnig cyflogaeth gadarn ac amrywiol. Mae mwy a mwy o bobl yn ymweld â therapyddion harddwch wrth i driniaethau harddwch esblygu a dod yn fwy poblogaidd. Mae nifer o ddynion bellach yn ymweld â salonau harddwch ar gyfer amrywiaeth o wahanol driniaethau. Mae hyn yn cael ei weld fel rhan allweddol o drin dynion ac yn cael ei gefnogi gan y niferoedd cynyddol o gynhyrchion harddwch sydd ar gael ar gyfer dynion ar silffoedd yr archfarchnad ac mewn mannau siopa harddwch.
Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn therapi harddwch ac mae’n addas ar gyfer pob oed. Argymhellir yn gryf eich bod yn cwblhau’r rhaglen dwy flynedd o hyd (Lefel 2 a Lefel 3 Therapi Harddwch) i’ch arfogi gyda’r cymwysterau sydd eu hangen i gael eich cyflogi fel Therapydd Harddwch cymwys.
Byddwch yn dysgu am ymgynghoriadau cleient ac unedau fel:
- Trin a Gofal Dwylo
- Trin a Gofal Traed
- Gofal croen a gwaith wyneb
- Hyrwyddo Manwerthu a Chynnyrch
- Derbynfa a Gwasanaeth Cwsmeriaid
- Celf ewinedd
- Dylunio a defnyddio colur
- Triniaethau llygaid gan gynnwys tintio amrannau ac aeliau a siapio amrannau
- Cwyro - wyneb a’r corff
- Efallai bydd unedau ychwanegol yn cynnwys amrannau parhaol a gwelliannau ewinedd
Darperir y cwrs drwy gyfuniad o:
- Dosbarthiadau theori
- Gweithdai ymarferol
- Amgylcheddau salon go iawn yn y coleg yn gweithio ar gleientiaid
- Sesiynau masnachol
- Arddangosiadau
- Gwaith grwp
- Teithiau ac ymweliadau â chwmnïau cosmetig ac arddangosfeydd diwydiannol
Yn ogystal â'r cwrs, byddwch yn cael eich annog i gymryd rhan mewn:
- Cystadlaethau mewnol yn y coleg
- Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru ac UK/World Skills
- Gweithgareddau cymunedol
- Dyddiau ymwybyddiaeth cynnyrch a thriniaeth yn y diwydiant
Byddwch yn cael eich asesu drwy asesiadau ymarferol, aseiniadau, prosiectau a phrofion amlddewis ar-lein yn ymdrin â'r wybodaeth greiddiol. Pan fyddwch yn ei gwblhau, byddwch yn ennill:
- NVQ Lefel 2 mewn Therapi Harddwch
- Cymwysterau ategol priodol i ehangu eich set sgiliau
- Sgiliau Cyfoethogi Creadigol (gweithgareddau ac arddangosiadau cymunedol)
Gofynion Mynediad
I gofrestru byddwch angen lleiafswm o 3 TGAU gradd D neu uwch (gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg) neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol yn cynnwys naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu radd Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Bydd ymgeiswyr nad oes ganddynt y cymwysterau TGAU gofynnol yn cael eu hystyried yn seiliedig ar brofiad blaenorol neu gymwysterau eraill.
Gwybodaeth Ychwanegol
Cod gwisg:
- Iwnifform
- Mae'n rhaid clymu gwallt yn ôl yn daclus oddi wrth yr wyneb
- Dim gemwaith na thlysau, cewch wisgo modrwy briodas yn unig yn y salon
Byddwch angen prynu gwisg a chit harddwch sy'n costio oddeutu £86 a gall costau ychwanegol godi yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.
I gydfynd â disgwyliadau diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent sydd i'w archebu oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Mae manylion ar sut i archebu eich gwisg ysgol, ynghyd ag opsiynau talu cyflenwyr, ar gael gan eich Pennaeth Ysgol, Darlithydd neu Dechnegydd. Y pris ar gyfer 2024/2025 yw tua £45, yn amodol ar gynnydd mewn prisiau chwyddiant.
Mae'r holl gostau'n cael eu hadolygu a gallent newid.
Mae'r holl gostau'n cael eu hadolygu a gallant newid.
CFDI0443AB
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr