City & Guilds NVQ Diploma mewn Trin Gwallt Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Lefel
3
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
Dyddiadau cychwyn ar gael o Awst 2023
Hyd
2 flynedd
Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu'r egwyddorion sylfaenol a'r sgiliau ymarferol uwch sydd eu hangen o fewn y diwydiant trin gwallt. Mae'n ddelfrydol ar gyfer y rhai sy'n cael eu cyflogi mewn salon trin gwallt ar hyn o bryd a chynhelir yr holl asesiadau yn y gweithle.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...unrhyw un sy'n gweithio/gyflogedig mewn amgylchedd salon trin gwallt â chleientiaid rheolaidd
...y rhai sydd wedi cwblhau cymhwyster Lefel 2 mewn Trin Gwallt
...unrhyw un sydd yn frwd dros drin gwallt
...gweithwyr diwyd â sgiliau cyfathrebu da.
Cynnwys y cwrs
Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn edrych ar unedau fel
- Ymgynghoriadau â'r cleient
- Technegau cywiro lliw a sgiliau lliwio uwch
- Sgiliau torri uwch mewn modd creadigol
- Cynllunio a chyflwyno gweithgareddau hyrwyddo
- Trin gwallt hir mewn modd creadigol ar gyfer amrywiaeth o achlysuron
- Gwallt priodasol
- Torri gwallt dynion
- Iechyd a diogelwch
- Sgiliau Cyflogadwyedd
Bydd y cwrs hwn yn datblygu eich sgiliau trin gwallt canolradd ac yn eich helpu chi i ddatblygu technegau mwy creadigol.
Gofynion Mynediad
Bydd angen i chi feddu ar gymhwyster Lefel 2 Trin Gwallt cyn cael eich derbyn ar y cwrs hwn.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd angen i chi fod yn weithgar a chyfeillgar a bydd angen i chi gael sgiliau cyflwyno personol o safon uchel, yn ogystal â'r gallu i gymell eich hun.
CODI0011AA
Campws Crosskeys
Dysgu yn y Gwaithle
Dyddiad Cychwyn: 01 Awst 2023
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr