AAT Diploma mewn Cyfrifeg (gyda Modiwlau) Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifeg, Busnes a’r Gyfraith
Lefel
3
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Ffioedd
£360.00
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn
13 Chwefror 2023
Dydd Llun
Amser Dechrau
09:00
Amser Gorffen
17:15
Hyd
34 wythnos
Yn gryno
Cwrs achlysurol yw hwn gyda dyddiadau dechrau hyblyg. Rydym yn recriwtio myfyrwyr drwy gydol y flwyddyn.
Mae hefyd yn gwrs dysgu cyfunol (cyfuniad o weithgareddau wyneb yn wyneb traddodiadol gydag athro mewn dosbarth a gweithgareddau dysgu gan ddefnyddio technolegau digidol o gartref).
Mae’r cwrs hwn yn dilyn Tystysgrif Sylfaen Lefel 2 mewn AAT a bydd yn eich galluogi i feithrin sgiliau pellach i symud ymlaen yn y maes cyfrifeg.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
… Rydych wedi cyflawni Tystysgrif Sylfaen AAT Lefel 2 mewn Cyfrifeg
… Rydych eisiau gwella eich sgiliau a’ch gwybodaeth yn y maes cyfrifeg
… Rydych eisiau gweithio ym maes cyfrifeg
Cynnwys y cwrs
Byddwch yn gwella’r sgiliau rydych wedi’u datblygu yn ystod y Dystysgrif Lefel 2 mewn Cyfrifeg ac yn caffael ystod o sgiliau cyfrifeg hanfodol a chymhleth, gan gynnwys cynnal cofnodion cyfrifeg a chostio a pharatoi adroddiadau ac adenillion.
Mae’r cwrs Lefel 3 AAT mewn Cyfrifeg yn cynnwys pedair uned orfodol
- Ymwybyddiaeth o Fusnes - Fe fyddwch yn dysgu am fathau o fusnesau gwahanol, strwythurau, llywodraethu a’r fframwaith cyfreithiol y maent yn gweithio ynddo, ac effaith yr amgylchedd micro a macroeconomaidd
- Cyfrifeg Ariannol: Paratoi Datganiadau Ariannol* - Byddwch yn dysgu sut i gymhwyso egwyddorion cadw cyfrifon mynediad deuol uwch, caffael a gwaredu asedau nad ydynt yn gyfredol. Byddwch yn paratoi cyfrifiadau dibrisio, addasiadau ar ddiwedd cyfnodau a chyhoeddi balans treial estynedig.
- Technegau Cyfrifo Rheoli - Byddwch yn deall pwrpas a defnydd cyfrifo rheoli a dysgu’r technegau costio a thaenlenni sydd eu hangen ar sefydliadau, a’r egwyddorion rheoli arian parod.
- Prosesau Trethi ar gyfer Busnesau* - Byddwch yn archwilio a chymhwyso gofynion deddfwriaethol TAW, cyfrifo TAW, adolygu a dilysu Adenillion TAW gwneud treth yn ddigidol (MTD), deall egwyddorion cyflogresi, ac yn astudio goblygiadau camgymeriadau, ffeilio a thalu’n hwyr, a sut i gofnodi gwybodaeth yn ymwneud â TAW.
Er mwyn ennill y cymhwyster Lefel 3 mewn Cyfrifeg, bydd angen cwblhau’r holl fodiwlau uchod, a gallwch brynu bob modiwl ar wahân.
*Er mwyn ennill cymhwyster Lefel 3 mewn Cadw Cyfrifon bydd angen i chi gwblhau dau fodiwl gyda *, gallwch brynu bob modiwl ar wahân.
Gofynion Mynediad
- Tystysgrif Lefel 2 mewn Cyfrifeg
neu - Gyfweliad â’r tiwtor os nad yw’r uchod ar gael
Gwybodaeth Ychwanegol
Ar ôl cwblhau Lefel 3 mewn Cyfrifeg yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen at Ddiploma AAT Lefel 4 mewn Cyfrifeg, a gallwch wneud hynny ar sail llawn amser neu ran amser yn Coleg Gwent. Ar ôl cwblhau’r cwrs hwnnw, gallwch ddechrau ar swydd ym maes cyllid.
Ar ôl cwblhau Lefel 3 Cadw Cyfrifon yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i AAT Lefel 3 mewn Cyfrifeg drwy gwblhau dwy uned ychwanegol - Ymwybyddiaeth o Fusnes a Thechnegau Cyfrifeg Rheoli.
Costau eraill:
Oddeutu £30 fesul modiwl ar gyfer llyfrau
Cofrestriad AAT (yn daladwy i AAT) £240
NCDI0066DC
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 13 Chwefror 2023
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr