Agored Cymru Diploma yng Ngholeg Brenhinol Nyrsio Cymru Cyswllt Gofal Iechyd Lefel 3
Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Iechyd, Gofal a’r Blynyddoedd Cynnar
Lefel
3
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Ffioedd
AM DDIM
Dyddiad Cychwyn
11 Medi 2024
Dydd Mercher
Amser Dechrau
09:00
Amser Gorffen
17:15
Hyd
20 wythnos
Yn gryno
Mae Coleg Gwent yn cynnig llwybr cyflym newydd a chyffrous i gwrs pontio Nyrsio, a ddatblygwyd ar y cyd â Phrifysgol De Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Choleg Brenhinol Nyrsio Cymru i gefnogi ymgeiswyr lefel 3 presennol i symud ymlaen at Raddau Israddedig mewn Nyrsio ar ôl dros 20 wythnos o astudiaeth ddwys.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... Unrhyw un sydd â chymhwyster Diploma lefel 3 mewn pwnc cysylltiedig yn barod sy'n anelu at symud ymlaen i Radd mewn Nyrsio.
... Gall unrhyw un a gyflogir fel gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd yn bresennol ymgeisio ac aros yn ei rôl wrth ymgymryd â'r cwrs.
... Unigolion brwdfrydig a rhagweithiol sydd wedi ymrwymo i lwyddo ar y cwrs dwys, heriol ond gwerth chweil hwn.
Cynnwys y cwrs
Byddwch yn mynychu'r coleg am 1 diwrnod yr wythnos a PDC (Prifysgol De Cymru) 1 diwrnod y mis ac am y 4 diwrnod sy'n weddill byddwch yn aelod cyflogedig o staff yr ABUHB fel Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd gyda hyblygrwydd o ddewis eich lleoliad gwaith.
Bydd y cwrs hwn yn eich cefnogi i ddangos tystiolaeth o'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol sy’n dod o ddysgu seiliedig yn y dosbarth ac ymarfer clinigol. Bydd yn rhoi cyfle i chi ddangos eich bod yn deall pwysigrwydd y rôl Cynorthwywyr Gofal Iechyd a gofal, cynhwysiant a myfyrdod proffesiynol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Byddwch yn astudio amrywiaeth o unedau gan gynnwys
· Sgiliau cyfathrebu i'w defnyddio mewn lleoliadau gofal iechyd
· Iechyd a Diogelwch
· Diogelu
· Rheoli heintiau
Gofynion Mynediad
Bydd ymgeiswyr eisoes yn meddu ar Ddiploma lefel 3 mewn pwnc cysylltiedig (er enghraifft, Diploma Mynediad Agored neu Ddiploma Cenedlaethol BTEC neu Egwyddorion a Chyd-destun CBAC mewn pynciau cysylltiedig megis Nyrsio Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gofal Iechyd neu Wyddoniaeth.
Bydd ymgeiswyr fel arfer yn meddu ar TGAU mewn Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg iaith gyntaf ar radd C neu'n uwch, neu gymhwyster cyfatebol ar o leiaf lefel 2 ac, yn ddelfrydol, wedi astudio pwnc gwyddoniaeth ar o leiaf lefel 2.
Bydd angen i ddysgwyr hefyd gwblhau proses recriwtio a hyfforddiant sefydlu y Byrddau Iechyd yn llwyddiannus, sy'n cynnwys Asesiad Iechyd Galwedigaethol a DBS.
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gofynion mynediad.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd cwblhau'r cwrs a'i holl ofynion yn llwyddiannus yn gwarantu cyfweliad ar gyfer y rhaglen nyrsio israddedig yn PDC.
Mae'r rhaglen hon yn gyfwerth â 42 credyd ar lefel 3 a 15 ar lefel 4 gyda chwblhau cyfnodolyn myfyriol disgwyliedig; a bydd yn cario pwyntiau UCAS gyda hi.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
EPDI0657AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 11 Medi 2024
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr