En

CIPD Diploma Cyswllt mewn Rheoli Pobl Lefel 5

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifeg, Busnes a’r Gyfraith

Lefel

Lefel
5

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Llantarnam Grange Cwmbran NP44 1PD

Ffioedd

Ffioedd
£950.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni i ddysgu am ein cynlluniau talu.
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Mercher
Amser Dechrau

Amser Dechrau
09:30

Amser Gorffen

Amser Gorffen
16:30

Hyd

Hyd
33 wythnos

Yn gryno

Mae’r Diploma Cyswllt Lefel 5 CIPD mewn Rheoli Pobl yn darparu llwyfan perffaith i ddatblygu eich gyrfa Adnoddau Dynol ymhellach ar lefel reoli.

Bydd yn eich helpu i ddatblygu eich gallu i werthuso effeithiolrwydd gwahanol fodelau ac arferion Adnoddau Dynol, a bydd yn cynyddu eich dealltwriaeth o ffactorau allanol sy'n effeithio ar Adnoddau Dynol a sefydliadau.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... y rhai sy'n dyheu am yrfa, neu'n dechrau ar yrfa, ym maes rheoli pobl

... y rhai sy'n gweithio mewn swydd ymarfer pobl sy'n dymuno cyfrannu eu gwybodaeth a'u sgiliau i helpu i lunio gwerth sefydliadol

...y rhai sy’n gweithio tuag at, neu sy’n gweithio mewn, swydd rheoli pobl.

Mae’r cymhwyster hwn yn ymestyn ac yn meithrin lefel ddyfnach o ddealltwriaeth a chymhwysiad ac yn naturiol yn datblygu arbenigedd dysgwyr mewn ymarfer pobl.

Cynnwys y cwrs

Byddwch yn astudio’r meysydd canlynol. Mae’r dosbarthiadau’n rhyngweithiol ac yn adlewyrchu eich profiad eich hun a’r deunydd cwrs. 

Yr unedau craidd yn y cymhwyster yw:

  • Perfformiad Sefydliadol ar Waith
  • Arfer sy'n Seiliedig ar Dystiolaeth
  • Ymddygiad Proffesiynol a Gwerthfawrogi Pobl
  • Unedau Arbenigol
  • Rheoli Perthynas Cyflogaeth
  • Rheoli Talent a Chynllunio'r Gweithlu
  • Gwobrau am Berfformiad a Chyfraniad
  • Cyfraith Cyflogaeth Arbenigol

I lwyddo yn y cwrs hwn bydd angen i chi basio aseiniad ym mhob un o’r saith modiwl.

Gofynion Mynediad

Mae'r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr 18+ oed sydd eisiau dysgu am ymarfer pobl. Ar y lefel hon dylech fod wedi cwblhau CIPD lefel 3 neu gyfwerth a bod mewn sefyllfa lle mae gennych brofiad swyddogaethol neu reolaethol mewn AD neu ddisgyblaeth gysylltiedig. Rhaid i ddysgwyr allu bodloni gofynion y deilliannau dysgu a chael mynediad at y llythrennedd a’r rhifedd priodol sydd eu hangen i gwblhau Diploma Cyswllt CIPD Lefel 5 mewn Rheoli Pobl.

Cynhelir cyfweliad ar y ffôn gydag Arweinydd y Cwrs i egluro hyn ar gyfer Lefel 5 i sicrhau eich bod ar y cwrs cywir.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae Tystysgrif Sylfaen CIPD yn darparu cymhwyster a gydnabyddir yn broffesiynol ac mae'n hanfodol eich bod yn dod yn aelod o’r CIPD ar ôl i chi ddechrau astudio'r cymhwyster.

Nid yw pris y cwrs yn cynnwys ffioedd cofrestru ar gyfer aelodaeth myfyriwr o’r CIPD (y mae'n rhaid eu talu'n uniongyrchol i'r CIPD).

Mae’r cwrs rhan amser hwn fel arfer yn cael ei gyflwyno un diwrnod yr wythnos am 33 wythnos.

Ble alla i astudio CIPD Diploma Cyswllt mewn Rheoli Pobl Lefel 5?

CPDI0592AA
Llantarnam Grange Cwmbran NP44 1PD
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr