City & Guilds Diploma mewn Barbro Lefel 3
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Lefel
3
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Ffioedd
I'w gadarnhau
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024
Dydd Llun a Dydd Mawrth
Amser Dechrau
09:15
Amser Gorffen
17:45
Hyd
34 wythnos
Gofynion Mynediad
Bydd angen i chi gael naill ai o leiaf cymhwyster Lefel 2 mewn unrhyw ddisgyblaeth trin gwallt neu fod wedi ennill profiad o weithio mewn siop barbwr heb unrhyw gymwysterau ffurfiol.
Yn gryno
Mae'r Dystysgrif Lefel 3 mewn Barbro yn gymhwyster sydd wedi'i ddylunio'n benodol i ddatblygu eich sgiliau ymarferol i lefel uwch drwy amrywiaeth o wahanol dechnegau. Mae'n ddelfrydol ar gyfer y rhai sy'n anelu at fod yn uwch steilydd, yn torri gwallt dynion mewn modd creadigol a'r gwaith arbenigol cymhleth o dorri gwallt wyneb.
Dyma'r cwrs i chi os...
...oes gennych gymhwyster Trin Gwallt neu gymhwyster Barbro eisoes ac eisiau datblygu i fod yn Uwch Steilydd
...oes gennych brofiad o dorri gwallt dynion
...ydych yn driniwr gwallt profiadol sydd yn dymuno ennill cymwysterau pellach i ehangu'ch gyrfa
...ydych yn dymuno newid gyrfa.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Pwrpas y cymhwyster yma yw datblygu eich sgiliau ymarferol i lefel uwch o allu galwedigaethol er mwyn cynnig eich gwasanaethau salon eich hun yn ogystal â chefnogi eraill.
Mae rhediad y cwrs dros gyfnod o 15 awr yr wythnos, ac mae'n ymdrin â thechnegau sylfaenol gan gynnwys unedau gorfodol ac unedau opsiynol.
Mae'r unedau gorfodol yn cynnwys:
- Gwaith a arsylwyd/Aseswyd gyda chleientiaid
- Monitro gweithdrefnau i reoli gweithrediadau gwaith yn ddiogel
- Darparu gwasanaethau ymgynghori trin gwallt
- Torri gwallt yn greadigol gan ddefnyddio cyfuniad o dechnegau.
- Arholiadau amlddewis ar-lein
Mae'r unedau yn cynnwys:
- Lliwio gwallt gan ddefnyddio cyfuniad o dechnegau.
- Cyfrannu at effeithiolrwydd cyllidol y busnes.
- Cyfrannu at gynllunio a gweithredu gweithgareddau hyrwyddo
- Ymgynghoriad i nodi anghenion cleientiaid
- Datblygu technegau torri/clipiwr i gyflawni'r edrychiad a ddymunir
- Defnyddio cynhyrchion ac offer
- Iechyd a Diogelwch yn y salon
- Darparu gwasanaeth ôl-ofal addas
Yn sail i'r cymhwyster hwn, byddwch yn datblygu gwybodaeth gadarn o fonitro iechyd a diogelwch wrth weithio yn y diwydiant barbwr. Byddwch hefyd yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth am y sgiliau ymarferol a ddysgir yn ystod y cymhwyster yma.
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Ar gyfer y cwrs hwn, bydd angen i chi fod yn hunan-ysgogol, yn weithgar, parchu eraill a dangos brwdfrydedd tuag at y pwnc.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Ar ôl cwblhau'r cwrs, gallwch symud ymlaen i'r cymhwyster Trin Gwallt Merched NVQ Lefel 3, neu arwain eich salon eich hun, neu arbenigo mewn gwahanol fathau o wallt neu driniaethau trin gwallt.
Efallai yr hoffech ystyried y cymwysterau eraill hyn hefyd:
- Tystysgrifau a Diplomâu Lefel 3 mewn Trin Gwallt - diweddaru a dysgu sgiliau a thechnegau newydd
- Tystysgrif / Diploma Proffesiynol Uwch mewn Rheoli Salon Technegol - y sgiliau i arwain eich salon gwallt eich hun
- Gwobr mewn Atal Dermatitis Cyswllt - y technegau i amddiffyn cwsmeriaid rhag haint.
Gwybodaeth Ychwanegol
Fel amod o’ch lle ar y cwrs hwn, bydd disgwyl i chi brynu'r offer priodol oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Y gost am hyn yw tua £103 yn amodol ar adolygiad/cynnydd pris chwyddiant.
I adlewyrchu disgwyliadau'r diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent y gellir ei harchebu oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Ar gyfer 2023/2024 bydd y coleg yn ariannu’r gost o un wisg salon lawn. Gellir cael manylion ar sut i archebu eich gwisg salon am ddim, a setiau ychwanegol, yn ogystal ag opsiynau talu’r cyflenwyr, oddi wrth eich Pennaeth Ysgol, Darlithydd neu Dechnegydd. Y pris ar gyfer 2023/2024 yw £45.
Gall fod costau ychwanegol yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.
Mae'r holl gostau yn cael eu hadolygu a gallent newid.
EPDI0579AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr