En

City & Guilds Diploma mewn Rheolaeth Lletygarwch Lefel 4

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Arlwyaeth a Lletygarwch

Lefel

Lefel
4

Dull Astudio
Dull Astudio
Dysgu yn y Gwaithle Bydd angen i chi fod mewn cyflogaeth lawn amser yn y sector i wneud cais ar gyfer y cwrs hwn a bydd eich aseswr yn ymweld â chi yn y gweithle i gwblhau eich cymhwyster NVQ.
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Dyddiadau cychwyn ar gael o Awst 2024

Hyd

Hyd
2 flynedd

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Byddwch angen cymhwyster Lefel 3 lletygarwch ac arlwyo perthnasol i gael dilyn y cwrs hwn.

Yn gryno

Mae cymhwyster Diploma Lefel 4 City & Guilds mewn Rheolaeth Lletygarwch ar gyfer y rheiny sy'n gweithio fel rheolwr lletygarwch, pennaeth adran, rheolwr cegin, prif gogydd, cogydd gweithredol, rheolwr swyddfa blaen, rheolwr blaen ty, rheolwr y dderbynfa, rheolwr llety, rheolwr cadw trefn, gweithiwr cadw trefn gweithredol, rheolwr bwyd a diod, rheolwr y bwyty, rheolwr bar yn y sector lletygarwch ac arlwyaeth, neu sy'n dymuno gweithio yn un o'r swyddi hyn.

Mae'n eich caniatáu chi i ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth a/neu ddatblygu gyrfa yn y sector lletygarwch ac arlwyo.

Dyma'r cwrs i chi os...

...ydych yn gweithio yn y sector lletygarwch ar hyn o bryd

...rydych eisoes mewn swydd rheoli neu'n dyheu am ddyrchafiad i reolaeth

...rydych yn gallu gweithio'n annibynnol

...mae gennych lefel dda o lythrennedd a rhifedd

Beth fyddaf yn ei wneud?

Gellir cyflawni'r cymhwyster mewn cyfnod o ddwy flynedd a bydd eich aseswr yn eich helpu chi i benderfynu pa unedau dewisol y dylech eu dewis sydd y mwyaf addas i chi.

Mae gan y cymhwyster nifer o lwybrau yn seiliedig ar eich swydd ac mae'r unedau yr ymdrinnir â nhw yn cynnwys:

Unedau gorfodol yn cynnwys:

  • Rheoli perfformiad timau ac unigolion
  • Gweithio fel rhan o dîm rheolaeth lletygarwch i gyflawni nodau strategol
  • Rheoli cydymffurfiad â gofynion rheoleiddiol a chyfreithiol mewn lletygarwch
  • Rheoli eich datblygiad proffesiynol o fewn sefydliad

Mae unedau dewisol mewn swyddi megis:

  • Goruchwyliaeth Lletygarwch
  • Rheoli Cegin
  • Derbyniad Blaen Ty
  • Gwasanaeth Bwyd a Diod
  • Rheoli Llety
  • Rheolaeth Lletygarwch Cyffredinol

Trafodir mwy o fanylion am eich dewis o unedau gyda'ch aseswr. Bydd yr unedau y cytunir arnynt yn bodloni rol eich swydd a chyfleoedd asesu.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Mae'n rhaid ichi fod yn gweithio yn y diwydiant Lletygarwch ac Arlwyo.

Bydd gofyn i chi gyflwyno tystiolaeth mewn portffolio a'i reoli'n briodol ac yn unol â gofynion y corff dyfarnu.

Bydd aseswr o'r coleg yn ymweld â chi i gynnal asesiadau ac mae'n rhaid i chi gysylltu â'ch aseswr i drefnu dyddiadau ac amseroedd addas

Beth sy'n digwydd nesaf?

Yn dilyn y cwrs hwn, efallai y byddwch eisiau dilyn rhaglen radd mewn Lletygarwch ac Arlwyo.

Ble alla i astudio City & Guilds Diploma mewn Rheolaeth Lletygarwch Lefel 4?

CODI0551AA
Campws Crosskeys
Dysgu yn y Gwaithle

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr