City & Guilds Diploma mewn Barbro Lefel 2

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser Estynedig Dysgu rhan amser am 12 awr yr wythnos (weithiau mwy) gydag argaeledd grantiau.
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Ffioedd

Ffioedd
AM DDIM

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2023

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Llun a Dydd Mawrth
Hyd

Hyd
34 wythnos

Yn gryno

Os ydych eisiau gyrfa fel barbwr, nod y cwrs yma yw darparu dull cyflym i gael cymhwyster tystysgrif Lefel 1 a Lefel 2 dros flwyddyn. Byddwch yn datblygu sgiliau mewn torri gwallt dynion ac yn ennyn dealltwriaeth o dechnegau gwaith barbwr, gwasanaethau ac offer gwaith barbwr.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

…rywun a chanddo brofiad yn torri gwallt dynion …drinwyr gwallt profiadol sydd eisiau ennill cymwysterau i wella eu gyrfa ... rywun sydd eisiau newid gyrfa.

Cynnwys y cwrs

Cynhelir y cwrs am 15 awr yr wythnos. Mae’n ymdrin â thechnegau sylfaenol yn cynnwys:

  • Ymgynghori er mwyn adnabod anghenion cleientiaid
  • Datblygu technegau torri/clipio i gael yr olwg a ddymunir
  • Defnyddio cynnyrch ac offer
  • Iechyd a diogelwch yn y salon
  • Darparu gwasanaeth ôl-ofal addas
Bydd angen i chi fod yn hunanysgogol, yn weithiwr diwyd, a bod gennych barch at eraill ac yn frwdfrydig ynghylch y pwnc. Pan fyddwch wedi cwblhau’r cwrs, byddwch yn gallu symud ymlaen i NVQ Lefel 2 mewn Trin Gwallt os dymunwch.

Gofynion Mynediad

Bydd angen i chi gael o leiaf dyfarniad yn unrhyw ddisgyblaeth trin gwallt neu fod gennych brofiad o weithio mewn siop farbwr heb unrhyw gymwysterau ffurfiol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Fel amod o’ch lle ar y cwrs hwn, bydd disgwyl i chi brynu'r offer priodol oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Y gost am hyn yw tua £161-£326.

I adlewyrchu disgwyliadau'r diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent y gellir ei harchebu oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Ar gyfer 2023/2024 bydd y coleg yn ariannu’r gost o un wisg salon lawn. Gellir cael manylion ar sut i archebu eich gwisg salon am ddim, a setiau ychwanegol, yn ogystal ag opsiynau talu’r cyflenwyr, oddi wrth eich Pennaeth Ysgol, Darlithydd neu Dechnegydd.  Y pris ar gyfer 2023/2024 yw £45.

Gall fod costau ychwanegol yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.

Mae'r holl gostau yn cael eu hadolygu a gallent newid.

Ble alla i astudio City & Guilds Diploma mewn Barbro Lefel 2?

EPDI0534AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Rhan Amser Estynedig
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2023

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr