En

City & Guilds Diploma mewn Ffitio Cerbydau’n Gyflym Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Moduro

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Ffioedd

Ffioedd
I'w gadarnhau

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Llun a Dydd Mercher a Dydd Iau
Amser Dechrau

Amser Dechrau
09:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
17:00

Hyd

Hyd
34 wythnos

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad
Cwblhau'r Diploma Lefel 1 mewn Egwyddorion Gosod Cerbydau yn llwyddiannus gyda phroffil Teilyngdod a chwblhau'r sgiliau llythrennedd a rhifedd priodol yn llwyddiannus.

Yn gryno

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys amrediad llawn o weithdrefnau cyffredinol yn ymwneud â gwaith ffitio cerbydau. Mae’n darparu gwybodaeth a sgiliau hanfodol ar gyfer ffitwyr cerbydau sy’n gweithio ar gerbydau mewn pob mathau o garejis, delwriaethau a busnesau ffitio cyflym.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Oes gennych ddiddordeb ysol mewn mecaneg cerbydau
... Ydych eisoes wedi cwblhau Diploma Lefel 1 mewn Cynnal a Chadw Cludiant – Cerbydau Ysgafn
... Ydych eisiau cyfuniad o astudiaeth ddamcaniaethol ac ymarferol

Beth fyddaf yn ei wneud?

Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyfle ichi astudio agweddau damcaniaethol ac ymarferol yn ymwneud â rhai o’r canlynol:

  • Archwilio, trwsio a newid teiars cerbydau ysgafn perfformiad uchel.
  • Alinio olwynion blaen cerbydau ysgafn.
  • Archwilio a newid clytshis cerbydau ysgafn, cydrannau peipiau mwg, siocleddfwyr, batris cerbydau a systemau brecio.
  • Asesu sefyllfaoedd ar ymylon ffyrdd a sicrhau eu bod yn ddiogel.

Bydd dysgwyr yn ennill gwybodaeth a dealltwriaeth eang o iechyd a diogelwch yn y gweithle, sut i gytuno ar ofynion cerbydau cwsmeriaid a sgiliau eraill sy’n gysylltiedig â gweithio mewn garej.

Fel rhan o’r cwrs byddwch hefyd yn cwblhau cymhwyster Bagloriaeth Cymru a chymwysterau’n ymwneud â Saesneg a Mathemateg.

Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng profion ar-lein, gwaith cwrs, aseiniadau, portffolios ac asesiad ymarferol. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill:

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gofrestru ar y cwrs hwn, byddwch angen Diploma Lefel 1 mewn Egwyddorion Ffitio Cerbydau gyda phroffil Teilyngdod a bod wedi cwblhau’r sgiliau llythrennedd a rhifedd priodol yn llwyddiannus.

Mae’n ofynnol ymrwymo’n llwyr i fynychu’r cwrs, oherwydd bydd angen ichi allu gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm. Hefyd, mae dymuniad cryf i weithio yn y diwydiant cerbydau modur yn ofynnol a disgwylir ichi gadw at ethos y coleg.

Beth sy'n digwydd nesaf?

  • Diploma Lefel 2 mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Ysgafn.
  • Mynd yn eich blaen at brentisiaeth neu waith addas.
  • Gwaith yn y diwydiant.

Gwybodaeth Ychwanegol

Byddwch yn datblygu sgiliau cyflogadwyedd hanfodol:

  • Hunanreoli, gweithio mewn tîm, ymwybyddiaeth busnes ac ymwybyddiaeth cwsmeriaid, datrys problemau, cyfathrebu, llythrennedd a rhifedd sylfaenol, ac agwedd gadarnhaol at waith.
  • Bydd angen ichi ddarparu eich Cyfarpar Diogelu Personol eich hun, fel esgidiau ac oferôls, a darparu eich defnyddiau ysgrifennu a’ch ffolderi eich hun.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio City & Guilds Diploma mewn Ffitio Cerbydau’n Gyflym Lefel 2?

CPDI0523AA
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr