En

YMCA Diploma mewn Tylino ar gyfer Perfformio Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Chwaraeon, Ffitrwydd a Hamdden

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Brynbuga

Ffioedd

Ffioedd
AM DDIM

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Llun a Dydd Gwener
Amser Dechrau

Amser Dechrau
09:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
17:00

Hyd

Hyd
17 wythnos

Yn gryno

Ar Lefel 3, mae rôl Therapydd Tylino Chwaraeon yn cynnwys cynllunio, darparu ac arfarnu triniaethau tylino chwaraeon.

Gellir cynnal triniaethau at ddibenion cyn, ar ôl ac yn ystod digwyddiad neu at ddibenion cynnal a chadw ac adfer, gan ddefnyddio ystod o dechnegau tylino sylfaenol. Cyfyngir cwmpas yr ymarfer i weithio ar feinwe problemus ac nid yw’n cynnwys gweithio ar anafiadau difrifol diweddar neu gyflyrau sydd eisoes yn bodoli.

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gymeradwyo gan y Sefydliad Siartredig ar gyfer rheoli chwaraeon a gweithgaredd corfforol (CIMSPA).

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... Gweithwyr ffitrwydd proffesiynol cymwys

... Y rheiny sydd eisiau arbenigo mewn ffitrwydd chwaraeon

... Gyrfa fel therapydd tylino ym maes chwaraeon

Cynnwys y cwrs

Mae'r meysydd gwybodaeth a dealltwriaeth y byddwch yn ymdrin â hwy yn ystod y cwrs hwn yn cynnwys:

  • Anatomi a ffisioleg ar gyfer tylino chwaraeon
  • Egwyddorion iechyd a ffitrwydd
  • Asesu a sgrinio cleientiaid
  • Ffurfio strategaethau tylino
  • Technegau sylfaenol tylino chwaraeon

Sgiliau yn ymwneud â’r cymhwyster:

  • Asesu a sgrinio cleientiaid ar gyfer triniaethau tylino chwaraeon
  • Ffurfio strategaethau tylino yn unol ag anghenion a disgwyliadau cleientiaid
  • Cymhwyso technegau sylfaenol tylino chwaraeon
  • Arfarniad triniaethau tylino chwaraeon

Gofynion Mynediad

Nid oes unrhyw ofynion ffurfiol ar gyfer dysgwyr sy’n dymuno dilyn y Diploma Lefel 3 mewn Therapi Tylino Chwaraeon.

Rhaid i ddysgwyr fod yn 16 oed neu’n hyn ac mae’n helpu cael diddordeb brwd mewn chwaraeon neu iechyd a ffitrwydd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae hwn yn gymhwyster ar sail damcaniaeth ac yn gymhwyster ymarferol, felly byddwch yn ennill profiad ymarferol er mwyn cryfhau eich gwybodaeth ddamcaniaethol.

Ble alla i astudio YMCA Diploma mewn Tylino ar gyfer Perfformio Lefel 3?

UPDI0498AA
Campws Brynbuga
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr