En

VTCT Diploma Gwallt a Harddwch Lefel 1

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Lefel

Lefel
1

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn yn ymdrin â thrin gwallt a therapi harddwch, gan eich caniatáu i ddewis eich llwybr penodol pan fyddwch yn symud ymlaen i'r lefel nesaf. 

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... ydych yn greadigol

... oes gennych ddiddordeb brwd mewn gwallt a harddwch

... ydych yn ansicr pa gwrs sy'n iawn i chi

Cynnwys y cwrs

Ar y cwrs hwn, byddwch yn dysgu am y canlynol:

  • Siampw a chyflyru
  • Lliw dros dro
  • Plethu a steilio gwallt merched
  • Gofal croen
  • Manicure sylfaenol
  • Colur sylfaenol a cholur ffotograffig
  • Paentio wyneb
  • Celf ewinedd

Darperir y cwrs drwy:

  • Ddosbarthiadau theori
  • Gweithdai ymarferol
  • Amgylcheddau salon go iawn yn y coleg
  • Arddangosiadau colur a siaradwyr gwadd o'r diwydiant
  • Ymarferion chwarae rôl
  • Gwaith grwp
  • Lleoliadau gwaith
  • Teithiau ac ymweliadau

Asesiad

Byddwch yn cael eich asesu drwy asesiadau ymarferol, aseiniadau, prosiectau a phrofion amlddewis ar-lein yn ymdrin â'r wybodaeth greiddiol.

Pan fyddwch yn cwblhau'r cwrs, byddwch yn cyflawni:

  • Diploma Lefel 1 mewn Gwallt a Harddwch
  • Cymwysterau cynorthwyol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Mathemateg a Saesneg
  • Sgiliau Cyfoethogi Creadigol (gweithgareddau ac arddangosiadau cymunedol)

Wedi i chi gwblhau'r cwrs, gallwch fynd ymlaen i Ddiploma Lefel 1 mewn Trin Gwallt, Diploma Lefel 2 mewn Therapi Harddwch neu Ddiploma Lefel 2 mewn Gwallt a Cholur (yn dibynnu ar y graddau a gafwyd yn y cwrs cyfun).

Gofynion Mynediad

Bydd angen isafswm o 3 chymhwyster TGAU (gradd G neu uwch) gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf neu gymhwyster Lefel Mynediad perthnasol. Caiff ymgeiswyr nad ydynt yn meddu ar isafswm y cymwysterau TGAU eu hystyried yn seiliedig ar brofiad blaenorol neu gymwysterau eraill.


Bydd angen hunan-gymhelliant, bod yn weithiwr caled, meddu ar bersonoliaeth gyfeillgar a lefel uchel o ymgyflwyniad personol.

Mae presenoldeb a phrydlondeb yn brif ofyniad ar gyfer y cwrs hwn.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gwisg:

  • Rhaid gwisgo tiwnig gyda throwsus ac esgidiau duon mewn salonau
  • Gwallt wedi'i glymu'n ôl yn daclus oddi wrth yr wyneb
  • Ni ddylid gwisgo estyniadau ewinedd na farnais ewinedd
  • Dim tlysau na gemwaith - caniateir gwisgo modrwy briodas yn unig

Fel amod o’ch lle ar y cwrs hwn, bydd disgwyl i chi brynu'r offer priodol oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Y gost am hyn yw tua £166, yn amodol ar adolygiad/cynnydd pris chwyddiant.

I adlewyrchu disgwyliadau'r diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent y gellir ei harchebu oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Gellir cael manylion ar sut i archebu eich gwisg salon am ddim, a setiau ychwanegol, yn ogystal ag opsiynau talu’r cyflenwyr, oddi wrth eich Pennaeth Ysgol, Darlithydd neu Dechnegydd.  Y pris ar gyfer 2024/2025 yw £45, yn amodol ar adolygiad/cynnydd pris chwyddiant

Gall fod costau ychwanegol yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.

Mae'r holl gostau yn cael eu hadolygu a gallent newid.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio VTCT Diploma Gwallt a Harddwch Lefel 1?

CFDI0441AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr