En

AAT Cyfrifeg Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifeg, Busnes a’r Gyfraith

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Safon dda o Saesneg a Mathemateg.

Yn gryno

Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn ennill sgiliau cyllid a chyfrifeg ymarferol, a gydnabyddir yn rhyngwladol a chewch eich paratoi ar gyfer arholiadau allanol AAT (Y Gymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu). Mae'r cwrs yn cynnig llwybr gwych at ddod yn gyfrifydd siartredig.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych yn mwynhau gweithio gyda rhifau

... Ydych eisiau gweithio mewn lleoliad cyfrifeg

... Oes gennych eich bryd ar weithio gydag awdurdodau lleol, cwmnïau yswiriant, banciau neu bractisau cyfrifeg

... Hoffech anelu'n uwch gydag astudiaeth bellach

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae’r Dystysgrif Lefel 2 mewn Cyfrifeg yn mynd i’r afael ag ystod eang o sgiliau cyfrifeg craidd, yn ogystal â sgiliau busnes a sgiliau personol yn ymwneud â chyfrifeg.  Mae themâu allweddol drwy gydol maes cymwysterau cyfrifeg, gan gynnwys technoleg, moeseg, cynaliadwyedd a chyfathrebu.  Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys pedair uned hanfodol:

  • Cyflwyniad i Gadw Cyfrifon
  • Egwyddorion Rheolaethau Cadw Cyfrifon
  • Egwyddorion Prisio
  • Yr Amgylchedd Busnes

Diben y cymhwyster hwn yw sicrhau bod myfyrwyr wedi'u paratoi yn llawn i fynd ymlaen i yrfa fusnes, cyllid neu gyfrifeg broffesiynol neu addysg bellach.

Byddwch yn datblygu sgiliau cyfrifeg mewn cadw cyfrifon cofnod dwbl a chostiad sylfaenol, yn ogystal â dealltwriaeth o brynu, gwerthu a chyfriflyfrau cyffredinol.  Byddwch hefyd yn dysgu sut i ddefnyddio meddalwedd cyfrifeg a datblygu'r sgiliau a'r ymddygiadau proffesiynol sydd eu hangen i gyfrannu'n effeithiol yn y gweithle. Hefyd byddwch yn dysgu sgiliau TG a dealltwriaeth o'r amgylchedd busnes.  Byddwch yn cael eich cyflwyno i elfennau o gyfraith contract, cyfraith cyflogaeth a chyfraith cwmni.

Asesir tair uned yn unigol mewn arholiadau diwedd uned.

Bydd hefyd angen i chi sefyll asesiad synoptig sy’n ymdrin ac yn asesu gwybodaeth a dealltwriaeth ar draws nifer o unedau.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Mae TGAU gradd C neu uwch mewn Mathemateg a Saesneg yn ddymunol. Fodd bynnag, os oes gennych Radd D neu gyfwerth, gallwch ymrestru ar y cwrs ond bydd disgwyl i chi gwblhau TGAU Mathemateg a Saesneg ochr yn ochr â'ch astudiaethau. Cewch eich ymrestru'n awtomatig fel rhan o'ch rhaglen lawn amser yma yn Coleg Gwent.

Os oes gennych unrhyw brofiad cyfrifeg neu ariannol blaenorol, gallwch sefyll gwiriad sgiliau ar-lein yn www.aatskillcheck.org/ i'ch helpu i benderfynu a ddylech ddechrau Tystysgrif Lefel 2 neu Ddiploma Lefel 3.

Ar ôl dechrau'r cwrs, bydd angen i chi wneud ymrwymiad llawn i bresenoldeb, dangos parch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y cwrs a'r gallu i gymell eich hun.

Byddwch yn cael eich asesu yn barhaol drwy aseiniadau ac arholiadau, a byddwch yn awyddus i barhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd y cymhwyster hwn yn eich galluogi i ennill cyflogaeth gyda hyder a/ neu symud ymlaen i'r Dystysgrif AAT Lefel 3 mewn Cadw Cyfrifon neu Ddiploma AAT Lefel 3 mewn Cyfrifeg.

Gallai sgiliau a ddatblygir drwy’r cymhwyster hwn arwain at gyflogaeth fel:

  • Gweinyddwr Cyfrifon
  • Cynorthwyydd Cyfrifon
  • Clerc Cyfrifon Taladwy
  • Clerc Cyfeirlyfr Prynu/Gwerthu
  • Technegydd Cyfrifeg dan hyfforddiant
  • Cynorthwyydd Cyllid dan hyfforddiant

Gwybodaeth Ychwanegol

I astudio cwrs AAT, mae angen i chi gofrestru â’r AAT fel myfyriwr. Bydd y coleg yn talu am eich cofrestriad gyda’r AAT. Bydd angen i chi hefyd gofrestru â’r coleg. 

Bydd angen i chi brynu llyfrau gwaith, a fydd yn costio tua £55. Bydd gofyn i chi hefyd dalu blaendal o £35 am lyfrau tiwtorial. Bydd eich blaendal yn cael ei ad-dalu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd, cyn belled â bod y llyfrau’n cael eu dychwelyd mewn cyflwr da. 

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio AAT Cyfrifeg Lefel 2?

NFDI0439AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr