En

EAL Diploma NVQ Peirianneg (Saernïo a Weldio) Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Peirianneg

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser Estynedig Dysgu rhan amser am 12 awr yr wythnos (weithiau mwy) gydag argaeledd grantiau.
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Ffioedd

Ffioedd
AM DDIM

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
21 Medi 2023
*Ymrestru ar agor o hyd

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Iau a Dydd Gwener
Hyd

Hyd

Yn gryno

Os ydych yn gweithio neu'n dymuno gweithio yn y maes peirianneg neu weithgynhyrchu, mae'r cwrs hwn yn ffordd wych o wella'ch gwybodaeth a'ch sgiliau gwneuthuriad a weldio, gan fynd i'r afael ag ystod o fanylebau weldio a gydnabyddir gan y diwydiant.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... Unrhyw un sydd eisiau dysgu weldio i fanylebau a safonau a gydnabyddir gan y diwydiant peirianneg.

Cynnwys y cwrs

Mae'r cwrs yn ymdrin â'r prosesau weldio Metal Active/Inert Gas Shielding (MAGS/MIGS), Manual Metal Arc (MMA), Tungsten Active/Inert Gas Shielding (TAGS/TIGS) ac Oxy-Fuel Burning, a bydd angen i chi gwblhau ystod o uniadau wedi'u weldio mewn safleoedd weldio amrywiol i'r safon weldio BSEN 4872.

Bydd angen i chi gydnabod ac adnabod diffygion weldio sylfaenol, gan ddangos sut i adfer ac atal unrhyw namau a all godi, ac addasu a phennu'r amodau ar gyfer weldio yn unol â manylebau perthnasol a gweithdrefnau weldio.

Bydd angen i chi hefyd baratoi ar gyfer weldio drwy gael gafael ar y cyfarwyddiadau angenrheidiol i'r swydd, deunyddiau, offer, cyfarpar ac unrhyw ddogfennaeth, a gwirio ac archwilio'r cyfarpar weldio i wneud yn siwr ei fod mewn cyflwr gweithio diogel ac yn addas ar gyfer ymgymryd â gwaith weldio.

Erbyn diwedd y cwrs, bydd gennych y wybodaeth a'r ddealltwriaeth i gymhwyso technegau a gweithdrefnau weldio yn ddiogel, deall y gwahanol brosesau weldio a'u cymhwysiadau yn ogystal â'r offer, deunyddiau a'r offer treuliadwy a ddefnyddir - ac wedi hynny gallwch symud ymlaen i gymhwyster Uwch Weldio Lefel 3 City & Guilds.

Gofynion Mynediad

Bydd angen i chi feddu ar gymhwyster Lefel 1 mewn Saernïo a Weldio, Dyfarniad Lefel 2 City & Guilds mewn Weldio Uwch, ac o leiaf 2 flynedd o brofiad yn y diwydiant o'r prosesau weldio dethol neu gyfweliad i asesu eich sgiliau.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd angen i chi ddarparu eich Cyfarpar Diogelu Personol eich hun (esgidiau dur trwm ac oferôls o ddeunydd gwrthdan).

Ble alla i astudio EAL Diploma NVQ Peirianneg (Saernïo a Weldio) Lefel 2?

NCDI0216AA
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser Estynedig
Dyddiad Cychwyn: 21 Medi 2023

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr