En

City & Guilds Rhaglen Sylfaen mewn Plymio Lefel 2

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Adeiladu

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

O leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Yn gryno

Byddwch yn dysgu sgiliau plymio a thrydanol sylfaenol a gwybodaeth a byddwch yn cael eich goruchwylio wrth i chi wneud gweithgareddau ymarferol amrywiol sy'n seiliedig ar wybodaeth.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Rhai fyddai’n hoffi cyflwyniad i blymio i arwain at addysg bellach

... Rhai sy’n hoffi cyrsiau ymarferol

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy'n edrych am gyflwyniad i'r diwydiant plymio a thrydanol, sy'n dymuno dilyn cwrs a fydd yn gweithredu fel llwybr i astudiaethau pellach yn y maes hwn. Bydd yn rhoi cyfle i chi ddysgu rhai sgiliau a gwybodaeth graidd, ynghyd â'r cyfle i symud ymlaen naill ai i'n cymwysterau plymio Lefel 2 neu 3. Mae'r cymhwyster yn galluogi dysgwyr i ddechrau datblygu eu:

  • Dealltwriaeth o'r adeiladau a'r strwythurau sy'n ffurfio'r amgylchedd adeiledig a sut maent yn newid, ac wedi newid, dros amser;
  • Dealltwriaeth o'r crefftau, rolau a gyrfaoedd yn y sector adeiladu a'r amgylchedd adeiledig;
  • Dealltwriaeth o gylchred oes adeiladau a strwythurau yn yr amgylchedd adeiledig a'r egwyddorion a'r prosesau cysylltiedig ar bob cam;
  • Dealltwriaeth o gynaliadwyedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol fel sy'n briodol i adeiladu a'r amgylchedd adeiledig;
  • Gwybodaeth am dechnolegau sy'n dod i'r amlwg yn y sector adeiladu a'r amgylchedd adeiledig;
  • Sgiliau cyflogadwyedd a'u dealltwriaeth o sut mae'r rhain yn berthnasol ac yn bwysig yn y gweithle yn y sector adeiladu a'r amgylchedd adeiledig;
  • Gwybodaeth am egwyddorion gweithio a'r gallu i'w cymhwyso mewn ffyrdd sy'n diogelu iechyd, diogelwch, lles a'r amgylchedd;
  • Gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth sy'n ofynnol wrth gynllunio, perfformio a gwerthuso tasgau ymarferol cyffredin mewn o leiaf dwy grefft o fewn y sector adeiladu a'r amgylchedd adeiledig.

Cyflwynir y cwrs gan sesiynau ymarferol gyda chyfleusterau gweithdy rhagorol a gwersi theori i danategu'r wybodaeth a ddysgwyd yn y sesiynau ymarferol. Byddwch yn cael eich asesu trwy brosiectau ymarferol, profion ysgrifenedig ac ar-lein. Ar ôl ei gwblhau, byddwch yn cyflawni:

  • L2 Sylfaen mewn Plymwaith
  • Cymwysterau ategol priodol i ehangu eich set sgiliau a chwrdd ag anghenion diwydiant
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Cymwysterau Mathemateg a Saesneg (os na chyflawnir C neu uwch)

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gael lle ar y cwrs, byddwch angen o leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd Mathemateg a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg neu gymhwyster Lefel Mynediad priodol.

Mae'n rhaid i chi fod ag awydd i weithio yn y diwydiant adeiladu. Mae angen ymrwymiad llawn i bresenoldeb, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaus ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Lefel 2 Dilyniant neu gyflogaeth/prentisiaeth ar Lefel 3.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd angen i chi wneud asesiad y diwydiant adeiladu er mwyn helpu i ddewis y cwrs mwyaf addas ar eich cyfer.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio City & Guilds Rhaglen Sylfaen mewn Plymio Lefel 2?

EFDI0433AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr