En

YMCA Diploma mewn Cyfarwyddo Ymarfer Corff a Ffitrwydd Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Chwaraeon, Ffitrwydd a Hamdden

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Brynbuga

Ffioedd

Ffioedd
AM DDIM

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2024

Hyd

Hyd
34 wythnos

Yn gryno

Nod y cymhwyster hwn yw darparu'r wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen ar ddysgwyr sydd â diddordeb mewn ffitrwydd, iechyd a gweithgareddau campfa i'w galluogi i ddilyn gyrfa fel Hyfforddwr Ffitrwydd yn y diwydiant iechyd a ffitrwydd. Bydd y cwrs hwn hefyd yn eich caniatáu i symud ymlaen i'r cymhwyster Hyfforddiant Personol Lefel 3 (Ymarferydd).

Yn ogystal â'r dystysgrif mewn Hyfforddi Campfa, byddwch hefyd yn cyflawni Dyfarniad lefel 2 YMCA mewn Ymgysylltu Plant a Phobl Ifanc mewn Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol a Thystysgrif Lefel 2 YMCA mewn Arwain Ymarfer Corff Grwp: Hyfforddiant Cylchol.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...unigolion 16 mlwydd oed neu hyn.

...rhai sy'n dymuno symud ymlaen i ddysgu pellach yn y sectorau iechyd a ffitrwydd neu hamdden egnïol.

Cynnwys y cwrs

I gyflawni'ch Diploma Lefel 2 YMCA mewn Hyfforddi Campfa, rhaid i chi gwblhau'r uned ganlynol. Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gymeradwyo gan y Sefydliad Siartredig ar gyfer Rheoli Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol (CIMSPA). Byddwch yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Anatomi a ffisioleg ar gyfer hyfforddwyr ymarfer corff a ffitrwydd
  • Darparu profiad cwsmer cadarnhaol yn yr amgylchedd ymarfer corff
  • Rheoli ffordd o fyw ac ymwybyddiaeth iechyd
  • Deall cyflogaeth yn y sector iechyd a ffitrwydd
  • Datblygu chi eich hun
  • Ymwybyddiaeth iechyd meddwl a chymorth
  • Gweithio gyda phobl anactif
  • Gweithio yn y gymuned i hyrwyddo a chyflwyno rhaglenni gweithgaredd corfforol
  • Egwyddorion ymgysylltu plant a phobl ifanc mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol
  • Dealltwriaeth sylfaenol am ddiogelu ac amddiffyn plant a phobl ifanc
  • Cynllunio chwaraeon a gweithgaredd corfforol ar gyfer plant a phobl ifanc
  • Cyflwyno chwaraeon a gweithgaredd corfforol i blant a phobl ifanc
  • Paratoi a chynllunio rhaglenni ar gyfer y gampfa
  • Cyfarwyddyd proffesiynol a darparu rhaglenni ar gyfer y gampfa
  • Egwyddorion cynllunio a chyflwyno sesiynau ymarfer corff grwp
  • Cynllunio a chyflwyno ymarfer cylchol grwp

Gofynion Mynediad

O leiaf 4 TGAU Gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol. Wedi dweud hynny, gellir ystyried y gofynion hyn ar sail unigolyn.

Ble alla i astudio YMCA Diploma mewn Cyfarwyddo Ymarfer Corff a Ffitrwydd Lefel 2?

UPDI0364AA
Campws Brynbuga
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr