City & Guilds Dilyniant mewn Gwaith Plymwr a Gwresogi Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Adeiladu
Lefel
2
Llawn Amser
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Dyddiad Cychwyn
05 Medi 2023
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Mynediad at Wasanaethau Adeiladu Lefel 1 neu Astudiaethau Plymio Lefel 1 a TGAU gradd C neu uwch mewn naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg
Yn gryno
Mae'r cymhwyster hwn ar gyfer y rhai sydd am ymuno â'r diwydiant plymio. Mae'n rhoi cyfle i chi godi'r sgiliau a'r wybodaeth graidd ac yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau mewn meysydd allweddol fel systemau plymio, systemau dwr poeth ac oer, gwres canolog, glanweithdra a thrydan i safon uchel a gydnabyddir gan y diwydiant.Dyma'r cwrs i chi os...
... Hoffech gael cyflogaeth yn y diwydiant plymio a gwresogi
... Hoffech symud ymlaen i’r Diploma Lefel 3
... Hoffech gael cyfuniad o astudiaeth ymarferol a damcaniaethol
Beth fyddaf yn ei wneud?
Byddwch yn dysgu sut i ddelio gyda phibellau sy’n gollwng, systemau dwr a draenio.
Mae’r unedau yn cynnwys:
- Iechyd a diogelwch mewn peirianneg gwasanaethau adeiladu
- Egwyddorion a phrosesau trydanol ar gyfer peirianneg gwasanaethau adeiladu
- Egwyddorion gwyddonol ar gyfer plymio domestig, diwydiannol a masnachol
- Prosesau plymio cyffredin
- Systemau dwr oer
- Systemau dwr poeth domestig
- Glanweithdra
- Systemau gwres canolog
- Systemau draenio
- Deall sut i gyfathrebu gydag eraill o fewn peirianneg gwasanaethau adeiladu
Addysgir y cwrs gan sesiynau ymarferol mewn cyfleusterau gweithdy rhagorol, ynghyd â gwersi theori i ategu’r wybodaeth a ddysgwyd yn y sesiynau ymarferol.
Cewch eich asesu drwy brosiectau ymarferol a phrofion ysgrifenedig ac ar-lein, ac ar ôl ei gwblhau’n llwyddiannus, byddwch yn cyflawni:
- Diploma Lefel 2 mewn Plymio
- Cymwysterau priodol cefnogol i ehangu eich set sgiliau a diwallu anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Er mwyn ymuno â’r cwrs, bydd angen Mynediad Lefel 1 mewn Gwasanaethau Adeiladu neu Lefel 1 mewn Astudiaethau Plymio arnoch a naill ai TGAU Mathemateg/Llythrennedd mewn Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf mewn Gradd C neu uwch.
Mae’n rhaid i chi fod eisiau gweithio yn y diwydiant adeiladu. Mae’n rhaid cael ymrwymiad llawn i bresenoldeb, ynghyd â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunangymhelliant. Cewch eich asesu yn barhaus a disgwylir i chi barhau â’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs yn eich amser eich hun.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Diploma Lefel 3 mewn Plymio, prentisiaeth neu gyflogaeth arall.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd angen i chi brynu Cyfarpar Diogelu Personol sy’n costio tua £40.00, yn ogystal â’ch deunydd ysgrifennu eich hun.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
EFDI0361AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 05 Medi 2023
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr