City & Guilds Diploma Trin Gwallt ar gyfer Oedolion Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Lefel
2
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2023
Hyd
34 wythnos
Gofynion Mynediad
Bydd angen i chi fod â Lefel 1 mewn Trin Gwallt fel cymhwyster mynediad ar gyfer y cwrs hwn neu brofiad cyffelyb mewn trin gwallt.
Yn gryno
Mae'r cwrs hwn ar gyfer unrhyw un sydd eisiau datblygu eu hastudiaethau neu yrfa trin gwallt.
Dyma'r cwrs i chi os...
...oes gennych ddiddordeb mewn parhau â'ch astudiaethau trin gwallt.
... ydych yn driniwr gwallt sydd eisiau datblygu eich sgiliau a thechnegau.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Byddwch yn dysgu am y canlynol:
- ymgynghoriadau â chleient
- golchi gwalltiau
- chwythsychu
- setio gwallt
- cyrlio parhaol
- manwerthu
- sgiliau derbynfa
- triniaethau
- torri
- lliwio
A byddwch yn dysgu'r uchod drwy:
- Ddosbarthiadau theori
- Gweithdai ymarferol
- Amgylcheddau salon go iawn yn y coleg
- Sesiynau masnachol
- Arddangosiadau
- Ymarferion chwarae rôl
- Gwaith grwp
- Lleoliad gwaith
Cewch eich asesu drwy:
- Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
- Cyflwyniadau ac arddangosiadau
- Portffolios gwaith
- Perfformiad ac arsylwadau
Drwy astudio'r cwrs hwn, byddwch yn cyflawni:
-
- Cymhwyster Trin Gwallt Lefel 2
- Cymwysterau ategol priodol i ehangu eich set sgiliau a chwrdd ag anghenion diwydiant
- Sgiliau Cyfoethogi Creadigol (gweithgareddau ac arddangosiadau cymunedol)
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Byddwch angen bod yn berson sy'n gallu cymell ei hun, gweithio'n galed, yn rhifog ac â phersonoliaeth gyfeillgar.
Bydd disgwyl i chi fynychu lleoliad gwaith fel rhan o'ch rhaglen.
Caiff y cyfan ei ddarparu ar y campws a bydd un noson yr wythnos lle byddwch yn y coleg tan yn hwyr.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Wedi i chi gwblhau'r cwrs, gallwch fynd ymlaen i Ddiploma Lefel 3 mewn Trin Gwallt Merched neu gyflogaeth.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd disgwyl i chi brynu a phecyn trin gwallt fel amod o'ch lle ar y cwrs. Bydd hyn yn costio oddeutu £70-£96.
I gydfynd â disgwyliadau diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent. Bydd y coleg yn talu am gost un wisg lawn bob blwyddyn. Gellir prynu setiau ychwanegol am tua £45 (i’w gadarnhau); bydd staff coleg yn gallu eich cyfeirio at y darparwr priodol os/pan fydd angen.
Mae'r holl gostau'n cael eu hadolygu a gallant newid.
CPDI0357AA
Campws Crosskeys
Rhan Amser Estynedig
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2023
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr